Ymateb y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, i ddatganiad yr Ysgrifennydd Gwladol am y trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer Cymru yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 27/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/02/2015

Rwy'n falch bod y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn adlewyrchu'r cytundeb trawsbleidiol eang y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod â rheolaeth dros ei ddyfodol ei hun.

Mae'r cytundeb hwn yn gosod y sefydliad ar seiliau cadarn a pharhaol. Mae'n arwydd o'r newid yn y cydbwysedd pŵer rhwng San Steffan a'r Cynulliad, sef rhywbeth yr wyf i wedi bod yn galw amdano.  O'r diwedd, byddwn yn gallu penderfynu ar ein materion eu hunain fel unrhyw senedd arall. Rwyf nawr am weld y pwerau hyn yn cael eu datganoli cyn gynted ag y bo modd.    

Rwy'n falch o weld ymrwymiad i sicrhau y bydd y Cynulliad:

  • yn cael pŵer i gynyddu ei gapasiti i adlewyrchu maint y dasg sydd o'i flaen. Bydd hyn yn ein galluogi i graffu'n drylwyr ar raglen bolisi a deddfwriaeth y Llywodraeth a'i phwerau newydd i godi trethi;
  • yn gallu penderfynu ar ei drefniadau etholiadol ei hun, yn ogystal ag ar faterion symbolaidd ac ymarferol pwysig, fel enw'r Cynulliad a'r hyn sy'n digwydd o'i fewn; 
  • yn gorfod rhoi ei gydsyniad ffurfiol cyn y caiff Senedd y DU basio deddfau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i'r Cynulliad. Nid yw'r protocol anstatudol presennol yn ddigon cadarn i ddiogelu'r setliad datganoli. Mae angen i ni gael eu trin yn yr un modd â'r Alban, lle bydd Confensiwn Sewel yn dod yn rhan o gyfraith y wlad yn y dyfodol.

Rwyf hefyd yn croesawu'r pwerau a drosglwyddwyd i allu penderfynu ar yr oedran pleidleisio priodol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, ac rwyf yn edrych ymlaen at rannu a thrafod canlyniad yr ymgynghoriad pleidleisio@16 ym mis Gorffennaf.

Fodd bynnag, y manylion yw diwedd y gân, ac edrychaf ymlaen at weld cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer bwrw ymlaen â'r model pwerau a gadwyd yn ôl. Yng ngoleuni dyfarniad diweddaraf y Goruchaf Lys, mae eglurder y model hwn yn hollbwysig os yw'r Cynulliad i allu deddfu'n effeithiol, ac os yw pobl Cymru i allu deall pwerau'r sefydliad.

Rwyf eisoes wedi'i gwneud yn glir fy mod i'n credu y dylai argymhellion Comisiwn Silk gael eu rhoi ar waith yn llawn. Fel llawer o rai eraill heddiw rwy'n siomedig na fu modd gwneud mwy o gynnydd ar y gyfres lawn o faterion sydd i'w cael yn ail adroddiad y Comisiwn.

Wedi dweud hynny, mae arwyddocâd cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw yn bwysig dros ben. Am y tro cyntaf, mae consensws trawsbleidiol yng Nghaerdydd a San Steffan y dylai'r Cynulliad fod yn senedd sofran sy'n rheoli drosti'i hun y modd y mae'n gwneud deddfau ac yn craffu ar Lywodraeth Cymru.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth nesaf y DU, beth bynnag fydd honno, i weld yr ymrwymiad hwn yn cael ei wireddu cyn gynted ag y bo modd.