Ymchwiliad gan y Cynulliad i wasanaethau cadeiriau olwyn

Cyhoeddwyd 05/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymchwiliad gan y Cynulliad i wasanaethau cadeiriau olwyn

5 Mawrth 2012

Ddydd Iau, 8 Mawrth, bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn ailymweld â chanfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd gan ei ragflaenydd, sef y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol.

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y gwahaniaeth yn safon y gwasanaeth a oedd ar gael rhwng y Gogledd a’r De. Roedd pobl yn y Gogledd yn aros yn hirrach am gadair olwyn na phobl yn y De, ac roedd defnyddwyr, gan gynnwys plant, gydag anghenion cymhleth yn gorfod aros yn hwy, gan gael effaith niweidiol ar allu’r plentyn i symud, i dyfu ac i ddatblygu.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad, roedd cynllun strategol i roi cyfeiriad newydd i’r gwasanaeth, cronfa o gyllidebau presennol i ddarparu offer i ddefnyddwyr a dull o fonitro gwasanaethau sy’n seiliedig ar fesur perfformiad.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 23 o argymhellion i gyd ac, ym mis Mehefin 2010, derbyniodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd bob un ohonynt.

Nod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw gweld pa gynnydd sydd wedi bod hyd yn hyn wrth weithredu’r argymhellion hynny.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae bron i ddwy flynedd wedi bod ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, ac mae’r Pwyllgor wedi penderfynu cynnal adolygiad i weld pa gynnydd sydd wedi bod hyd yn hyn i wella safonau gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.”

“Yn ystod yr ymchwiliad hwn, byddwn yn casglu tystiolaeth o sawl persbectif, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, meddygon, darparwyr elusennol, y GIG yng Nghymru a gwneuthurwyr polisi.”