Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Mawrth 2014
Mae ymchwiliad newydd wedi'i lansio i'r rheolau o ran anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystyried:
Yr egwyddorion sy'n sail i'r swyddi a'r cyflogaethau sy'n anghymwyso a nodir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010 a, cyhyd ag y bo modd, yn argymell rhestr newydd o swyddi a'r cyflogaethau sy'n anghymwyso;
Yr amser pryd y daw anghymwysiadau i rym;
A ddylai'r Cyfrin Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog; ac
Unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad.
Bydd y Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru. Daw hyn yn sgîl y materion a gododd ynghylch ethol dau ymgeisydd yn 2011.
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad anfon e-bost i PwyllgorMCD@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at:
Gareth Williams
Clerc
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Dylai unrhyw gyfraniadau ddod i law erbyn 1 Mai 2014 fan bellaf.