Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 17/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Mawrth 2014

Mae ymchwiliad newydd wedi'i lansio i'r rheolau o ran anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystyried:

  • Yr egwyddorion sy'n sail i'r swyddi a'r cyflogaethau sy'n anghymwyso a nodir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010 a, cyhyd ag y bo modd, yn argymell rhestr newydd o swyddi a'r cyflogaethau sy'n anghymwyso;

  • Yr amser pryd y daw anghymwysiadau i rym;

  • A ddylai'r Cyfrin Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog; ac

  • Unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad.

Bydd y Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru. Daw hyn yn sgîl y materion a gododd ynghylch ethol dau ymgeisydd yn 2011.

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad anfon e-bost i PwyllgorMCD@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at:

Gareth Williams

Clerc

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Dylai unrhyw gyfraniadau ddod i law erbyn 1 Mai 2014 fan bellaf.