Ymchwiliad i ddwr mewndirol yn mynd ar daith
18 Tachwedd 2009Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddweud eu dweud am ddwr mewndirol Cymru pan fydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn teithio o amgylch Cymru'r wythnos hon.
Bydd bws Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Betws-y-coed, Wrecsam, Caerfyrddin a Merthyr Tudful ar ddydd Gwener 20 a dydd Sadwrn 21Tachwedd.
Ar y bws fydd Mick Bates AC, cadeirydd y Pwyllgor, a fydd yn gwrando ar dystiolaeth ym Metws-y-coed gydag aelod arall o’r Pwyllgor, Brynle Williams AC. Bydd yng nghwmni Lesley Griffiths AC yn Wrecsam, cyn symud ymlaen i Gaerfyrddin.
Bydd Mike German AC ar gael ym Merthyr Tudful.
Gall ymwelwyr ar y dyddiau hynny recordio tystiolaeth fideo er mwyn i’r Pwyllgor ei hystyried fel rhan o’r ymchwiliad.
Dywedodd Mick Bates AC: “Rydym wedi cael ein syfrdanu gan faint o dystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi dod i law gan bobl sydd eisiau dweud eu dweud ar y mater hwn.”
“Mae’n debyg mai’r syniad gorau oedd mynd allan i gwrdd â chymaint o bobl â phosibl wyneb yn wyneb. Mae’n amlwg bod teimladau cryf ynghylch sut y dylid defnyddio a gwarchod ein dwr mewndirol, ac rydym wedi clywed nifer fawr o bwyntiau i’w hystyried yn barod”.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn ein dyfroedd mewndirol i ddod i gwrdd â ni. Edrychaf ymlaen at glywed rhagor o safbwyntiau.”
Gwybodaeth ychwanegol
Mae amserlen y daith i gasglu tystiolaeth fel a ganlyn:
Dydd Gwener 20 Tachwedd – Gwesty Gwydyr, Ffordd Caergybi, Betws-y-coed rhwng 11.30 a 12.30
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol: Mick Bates AC a Brynle Williams AC
Dydd Gwener 20 Tachwedd – Sgwâr y Frenhines, Wrecsam rhwng 16.00 a 17.00
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol: Mick Bates AC a Lesley Griffiths AC
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – Sgwâr Caerfyrddin rhwng 9.30 a 10.30
Aelod Cynulliad yn bresennol: Mick Bates AC
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – Maes parcio swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Merthyr Tudful rhwng 14.00 a 15.00
Aelod Cynulliad yn bresennol: Mike German AC