Ymchwiliad newydd gan y Cynulliad yn gofyn pa mor effeithiol yw’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 01/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymchwiliad newydd gan y Cynulliad yn gofyn pa mor effeithiol yw’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

1 Tachwedd 2011

Bydd ymchwiliad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r effaith y mae’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn ei chael ar ddatblygiad a chynaliadwyedd economaidd y wlad.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn asesu a yw’r £3.1 biliwn a ddyranwyd i Gymru hyd yma yn cyflawni yr amcanion a bennwyd ar ei gyfer, sy’n cynnwys adfywio cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, gwella’r economi wybodaeth a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

“Gan fod dyfodol ffrydiau ariannu Ewropeaidd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, barn y Pwyllgor yw ei bod yn bryd asesu effaith yr arian sydd eisoes wedi’i wario yng Nghymru,” meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Felly, rydym yn chwilio am enghreifftiau a thystiolaeth sy’n dangos sut mae’r arian hwn wedi effeithio ar feysydd penodol, a fu’r effaith a gafwyd yn eang ac yn gadarnhaol neu ai ychydig o effaith, os o gwbl, a gafwyd.

“Byddwn yn archwilio a gafodd yr arian hwn ei reoli’n gywir ac yn addas, ac a yw wedi mynd i’r afael â’r union faterion y cafodd ei ddyrannu i ymdrin â nhw.

“Byddem yn falch o glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb personol yng nghronfeydd strwythurol yr UE, ac yn enwedig gan yr union gymunedau y mae i fod i’w helpu.”

Dyma rai o’r cwestiynau y mae’r pwyllgor yn bwriadu eu hystyried fel rhan o’i ymchwiliad:

  • I ba raddau rydych yn ystyried bod y Rhaglenni Cydgyfeiriant a’r Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013 wedi cyflawni - neu yn cyflawni - yr amcanion ar eu cyfer?

  • A gredwch fod y prosiectau amrywiol sy’n cael eu hariannu drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn sicrhau gwerth am arian?

  • Pa mor effeithiol y bu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o ran monitro a gwerthuso effaith prosiectau?

  • A oes gennych bryderon ynghylch y gallu i gynnal y gweithgareddau a’r gwaith a gyflawnir drwy brosiectau a ariennir yn ystod cylch cyfredol y cronfeydd strwythurol y tu hwnt i 2013?

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu tystiolaeth i’r ymchwiliad naill ai anfon e-bost at PwyllgorCyllid@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.