Ymchwiliad newydd i gyflwr y ffyrdd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Bydd ymchwiliad newydd yn edrych ar gyflwr y ffyrdd yng Nghymru a'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar gyflwr presennol ffyrdd yng Nghymru ac a yw'r modelau cyllido a chynnal a chadw sydd ar waith yn darparu gwerth am arian.

Yn ôl adroddiadau diweddar yn y cyfryngau, byddai'n cymryd 24 mlynedd i fynd i'r afael â'r gwaith atgyweirio sydd wedi cronni ledled y wlad.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar hyfywedd prosiectau mawr o bwys a'u gwerth am arian, gan gynnwys ffordd osgoi'r M4 o amgylch Casnewydd, rhaglen ddeuoli'r A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr, y ffordd osgoi rhwng Caernarfon a'r Bontnewydd, a ffordd osgoi Y Drenewydd. Mae costau'r ffordd osgoi eisoes yn uwch nag £1 biliwn, ac yn ôl cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru disgwylir i'r gwaith ar yr A465 hefyd gostio mwy na'r gyllideb.

"Mae tyllau ar y ffordd a ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael yn peri rhwystredigaeth i ni gyd. Yn ogystal â gwneud siwrnai'n anghyfforddus gallant wneud niwed difrifol i economi a chymdeithas Cymru," meddai Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Meddyliwch am y miliynau o deithiau a wneir bob blwyddyn ar gyfer busnes, hamdden, anghenion iechyd, ac i deithio i'r ysgol ac ati. Mae'n hanfodol bod gan Gymru rwydwaith ffyrdd a gynhelir yn dda i gadw'r wlad yn symud.

"Ar adeg o bwysau ariannol a thoriadau i gyllidebau, rydym yn deall fod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd. Ond rydym hefyd yn bwriadu archwilio cyflwr presennol y ffyrdd yng Nghymru a'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith yn addas ar gyfer y dyfodol."

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • Cyflwr presennol y ffyrdd yng Nghymru, ac a yw'r dull o ariannu a chyflawni rhaglenni cynnal a chadw ar gyfer y rhwydwaith o ffyrdd lleol, y cefnffyrdd a'r traffyrdd yng Nghymru yn effeithiol, yn cael eu rheoli i amharu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ac yn darparu gwerth am arian;

  • A yw'r prosiectau gwella mawr ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, cefnffyrdd a thraffyrdd yn cael eu blaenoriaethu, eu hariannu, eu cynllunio a'u cyflawni'n effeithiol, ac yn rhoi gwerth am arian. Mae materion perthnasol yn cynnwys defnyddio'r drefn o gynnwys contractwyr yn gynnar, a'r cyfleoedd a gynigir gan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru; ac

  • A yw Cymru yn gynaliadwy o ran cynnal a chadw a gwella ei rhwydwaith ffyrdd yng nghyd-destun deddfwriaeth allweddol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar agor hyd at 27 Ebrill 2018. Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu fynd i dudalennau'r Pwyllgor ar y we yn gyntaf i gael rhagor o wybodaeth.