Mae ymchwiliad newydd yn mynd rhagddo i ystyried yr hyn sy'n achosi cysgu ar y stryd yng Nghymru, a'r cymorth sydd ar gael i atal hyn.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am glywed safbwyntiau a syniadau pobl er mwyn helpu i lunio ei gasgliadau a'i argymhellion.
Mae'r ffigurau'n dangos bod 313 o bobl yn cysgu ar y stryd ar draws Cymru yn y pythefnos rhwng 10 a 23 Hydref 2016. Mae'n ymddangos y bu cynnydd mewn cysgu ar y stryd yng Nghymru, ond nid yw union ffigur y cynnydd yn amlwg.
Fel rhan o'i ymchwiliad, bydd y pwyllgor yn ystyried:
Effeithiolrwydd Rhan Dau Deddf Tai (Cymru) 2014 o ran helpu i atal cysgu ar y stryd;
Faint o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru a pha mor ddigonol yw'r data;
Yr hyn sy'n achosi cysgu ar y stryd a'r cynnydd diweddar ymddangosiadol mewn cysgu ar y stryd;
Effeithiolrwydd ac argaeledd gwasanaethau, gan gynnwys llety brys; a'r
Camau i atal ac ymdrin â chysgu ar y stryd yng Nghymru.
Mae'r ddeddfwriaeth gyfredol sydd wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru yn seiliedig ar ymyrraeth ac ataliad cynnar, lle mae'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol dim ond i sicrhau llety i'r rheini y tybir bod angen rhoi blaenoriaeth i'w hanghenion. Ni ystyrir bod angen rhoi blaenoriaeth i achosion o gysgu ar y stryd yn ei hun.
Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Nid wyf yn meddwl bod yr un ohonom wedi methu â sylwi ei bod yn ymddangos bod mwy o bobl yn defnyddio drysau siopau, grisiau a meinciau parc i gysgu.
"Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn golygu bod iechyd pobl, a'u bywydau hyd yn oed, mewn perygl.
"Mae gwirfoddolwyr, elusennau, awdurdodau lleol, a gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud llawer o waith da i roi cymorth a chefnogaeth, ond rydym am wybod beth arall y mae modd ei wneud."
Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol ond mae am glywed am brofiadau personol hefyd.
Gall unrhyw un sydd am gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor naill ai e-bostio SeneddCymunedau@cynulliad.cymru, neu ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw dydd Gwener 2 Chwefror 2018. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a'i ymchwiliad ar gael yn http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgCommitteeDetails.aspx?ID=447.