Ymestyn y cynllun ffyrlo i helpu i sicrhau dyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 14/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

"Mae democratiaeth yn gofyn am wasg iachus i roi gwybodaeth i'r cyhoedd a chraffu ar barth y cyhoedd.  Mae'n baradocs annerbyniol, wrth i'r Senedd ennill rhagor o bwerau, fod newyddiaduraeth er budd y cyhoedd wedi encilio o Gymru."

- Helen Mary Jones AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Mae'r pandemig COVID-19 wedi gwaethygu problemau i'r cyfryngau a newyddiaduraeth yng Nghymru ac wedi rhoi pwysau enfawr ar ddiwydiant a oedd eisoes o dan straen.  

Fodd bynnag, ni ddylid gwneud penderfyniadau a allai gael effaith niweidiol ar ei ddyfodol mewn cyfnod o argyfwng, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd. Mae'n annog Llywodraeth Cymru i ofyn am estyniad i gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU i gefnogi'r sector yn y tymor byr.  

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar effaith argyfwng COVID 19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol, dydd Llun 14 Medi 2020.   

Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am ansawdd a chywirdeb adrodd ar newyddion, am y cynnydd yn y galw am newyddion perthnasol ac addysgiadol, yn ogystal ag am yr ergyd economaidd i refeniw hysbysebu a gwerthiant papurau newydd. Er ei fod yn cydnabod bod yr heriau hyn yn bodoli cyn y pandemig, mae'r Pwyllgor yn pryderu y gallai unrhyw newidiadau a wneir nawr gael effaith ddinistriol, hirhoedlog ar newyddiaduraeth a democratiaeth yng Nghymru.  

Daw'r Pwyllgor i'r casgliad na ddylid cymryd camau llym fel ailstrwythuro neu gwtogi ar swyddi nawr yn ystod cyfnod o argyfwng. Yn lle hynny, mae am weld rhagor o gefnogaeth yn cael ei darparu i helpu'r sector i oroesi'r storm, gan gynnwys ymestyn cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU fel cam gweithredu ar unwaith, tra'n annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion hirdymor.  

Yn ôl Helen Mary Jones AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:

"Bu awydd enfawr am newyddion yn ystod y pandemig ac mae wedi bod yn bwysicach nag erioed sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at newyddion sy'n gywir ac yn berthnasol iddynt. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn bod y pandemig wedi rhoi straen enfawr ar ein sector newyddion a'r cyfryngau, a bod refeniw a ddaw o hysbysebu a gwerthu wedi diflannu, sydd wedi arwain at dorri swyddi a chwtogi ar wasanaethau.   

"Rydym eisoes wedi gweld cwtogi ar swyddi yn Reach Plc, sef un o'r prif ddarparwyr newyddion yng Nghymru, sy'n cynnwys Wales Online, y Western Mail, North Wales Live a'r Daily Post. Rhaid inni weithredu nawr i atal rhagor o doriadau ac ailstrwythuro pellach, sy'n crebachu'r cyfryngau yng Nghymru.  

"Dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i barhau â'i chefnogaeth i weithwyr y tu hwnt i fis Hydref 2020 yn gydnabyddiaeth o'r ffaith na fydd y rhan fwyaf o'r busnesau newyddiaduraeth newyddion yn gallu dychwelyd i'r lefelau gweithgarwch economaidd a gafwyd cyn y pandemig am gryn amser. Dylai Llywodraeth Cymru annog busnesau i ddefnyddio'r Cynllun wrth iddynt drafod atebion tymor hwy, yn hytrach na dileu swyddi gweithwyr. 

"Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cadarnhaol ar frys i gefnogi newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru, ac yn gobeithio trafod y mater hwn yn fanylach yn nhymor yr hydref.  

Yn ei adroddiad, mae'r Pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at bryderon difrifol ynghylch ansawdd adroddiadau ar faterion datganoledig yn ystod y pandemig gan rai darparwyr newyddion yn y DU, a bod peryglon camwybodaeth wedi dod yn rhy real pan oedd yn ymddangos ei fod yn tanseilio ymdrechion i fynd i'r afael â'r afiechyd yng Nghymru.  

Roedd yr adroddiad yn cynnwys naw argymhelliad, gan gynnwys: 

  • Dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i barhau â'i chefnogaeth i weithwyr y tu hwnt i fis Hydref 2020 ar sail sectorau, fel cydnabyddiaeth o'r ffaith na fydd y rhan fwyaf o'r busnesau newyddiaduraeth newyddion yn gallu dychwelyd i'r lefelau gweithgarwch economaidd a gafwyd cyn y pandemig am gryn amser.  
  • Dylai Llywodraeth Cymru arwain sgyrsiau â chynrychiolwyr o'r sector i gael dealltwriaeth glir o'r cymorth uniongyrchol sydd ei angen a thrafod atebion heblaw am ddileu swyddi.   
  • Dylai Llywodraeth Cymru annog Ofcom i sicrhau bod darlledwyr yn cynnal cywirdeb a didueddrwydd drwy adrodd ar bob un o bedair gwlad y DU yn gyfartal, fel mater o drefn, ond yn enwedig mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd.  
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu asesiad i'r Pwyllgor o ansawdd dosbarthu gwybodaeth am COVID-19 yn ystod y pandemig. 

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.