Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried faint o gymorth sydd ar gael i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a pha mor dda y mae Cymru yn ymateb i ddadleoliad nifer fawr o Syriaid oherwydd rhyfel cartref y wlad.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am glywed safbwyntiau a syniadau pobl er mwyn helpu i lunio ei gasgliadau a'i argymhellion.
Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Cyflymder ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru i ailsefydlu ffoaduriaid drwy Gynllun Llywodraeth y DU ar Adleoli Pobl o Syria sy'n Agored i Niwed;
Effeithiolrwydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches;
Cymorth ac eiriolaeth sydd ar gael i blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yng Nghymru; a
Rôl ac effeithiolrwydd Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn integreiddio yng nghymunedau Cymru.
Mae tua 37,000 o geiswyr lloches a 117,000 o ffoaduriaid yn y DU. Daw'r rhan fwyaf o geisiadau lloches gan bobl o Iran, Irac, Pacistan, Eritrea, Affganistan a Syria.
Mae 2,872 o geiswyr lloches yng Nghymru ar hyn o bryd, yn byw'n bennaf yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Nid ydym yn gwybod faint o ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru, oherwydd os rhoddir statws ffoadur i geisiwr lloches, nid yw'n ofynnol iddo fyw mewn man penodol a gall symud i fan arall.
Fodd bynnag, mae 112 o ffoaduriaid o Syria wedi eu hadleoli'n benodol yng Nghymru ers mis Hydref 2015, ar ôl iddynt gael eu dadleoli yn sgil rhyfel cartref Syria, o gymharu ag 862 yn yr Alban.
Er nad yw pwerau o ran lloches a mewnfudo wedi'u datganoli, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid o ran tai, mynediad at iechyd ac addysg a dod o hyd i waith.
Cynlluniwyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru i ddarparu'r gwasanaethau hyn, sy'n aml o dan ofal awdurdodau lleol.
Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn clywed tystiolaeth gan sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol ond mae am glywed am brofiadau personol hefyd.
Bydd Cadeirydd y Pwyllgor, John Griffiths AC, yn gwneud datganiad yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddydd Mercher 19 Hydref, lle y bydd yn nodi amcanion y Pwyllgor.
Dywedodd Mr Griffiths:
"Mae'r lluniau a'r straeon am bobl yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac a gwledydd eraill yn frawychus.
"Mae llawer ohonyn nhw'n mentro ar daith beryglus i groesi Môr y Canoldir mewn cychod bach, gorlawn, ac mae niferoedd dirifedi o bobl, llawer ohonyn nhw'n blant, yn marw cyn cyrraedd y lan.
"Mae angen cymorth effeithlon a mynediad at wasanaethau hanfodol ar y bobl hyn fel y gallan nhw ymgartrefu'n gyflym a dechrau byw o'r newydd.
"Byddwn ni'n edrych ar y gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddyn nhw, pa mor hawdd yw cael gafael arnynt a beth arall y gellir ei wneud.
"Rwy'n gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad o'r materion hyn roi ei safbwyntiau a'i syniadau i ni er mwyn helpu i lywio ein canfyddiadau."
Gall unrhyw un sydd am gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor naill ai e-bostio SeneddCymunedau@cynulliad.cymru, neu ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 23 Tachwedd 2016.