Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ynghylch Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Llywodraeth Cymru.
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad sy'n trafod y Bil yng Nghyfnod 1 yn y broses ddeddfu.
Yn y cyfnod cyntaf, bydd y Pwyllgor yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil, gan gynnwys a fydd yn cyflawni ei amcanion ac a ellid cyflawni'r amcanion hynny trwy ddeddfwriaeth neu ddulliau sy'n bodoli eisoes.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y Bil:
“yn gwahardd taliadau penodol mewn perthynas â threfnu i roi neu adnewyddu contractau meddiannaeth safonol, neu drefnu i barhau â chontractau o'r fath. Bydd hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch trin blaendaliadau cadw. Bydd unrhyw berson sy'n euog o drosedd o dan y Bil yn agored i ddirwy yn sgil euogfarn ddiannod."
Meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:
"Os caiff ei basio, gallai’r Bil hwn newid y sector rhent yng Nghymru yn sylweddol drwy ddod â'r ffioedd a godir gan landlordiaid ac asiantau gosod eiddo i ben.
"Byddwn yn trafod y Bil hwn yn fanwl i weld a yw'n angenrheidiol ac a fydd yn cyflawni ei nodau.
"Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â buddiant yn y maes hwn, boed yn landlord, yn asiant gosod eiddo neu yn denant, fwrw golwg fanwl dros gynigion Llywodraeth Cymru a rhannu eu syniadau â'n hymgynghoriad."
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth fynd i wefan y Pwyllgor.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn cynnal trafodaeth ar-lein. Gall pobl gymryd rhan ynddi drwy gyfrwng gwasanaeth Dialogue. Mae gwybodaeth am Dialogue a sut i gymryd rhan ar gael yma.
Dydd Gwener 7 Medi 2018 yw'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad.