Ymgynghoriad ar ymchwiliad i atal hunanladdiad

Cyhoeddwyd 16/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/10/2017

​Bydd ymchwiliad newydd yn edrych ar faterion sy'n ymwneud â hunanladdiad yng Nghymru a'r hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r peth.

Bydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio'r rhesymau pam mae rhwng 300 a 350 o bobl yn cymryd eu bywydau yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae hunanladdiad yn un o brif achosion marwolaeth i bobl 15-44 oed, ac mae tua thri chwarter y bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yn ddynion.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Llywodraeth Cymru - 'Siarad â Fi 2', sydd wedi'i chynllunio i leihau niferoedd trwy hyrwyddo a chefnogi rhaglenni a gwasanaethau ledled y wlad.

Mewn tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor ar unigrwydd ac unigedd yn gynharach eleni, bu Samariaid Cymru yn canmol cynnwys 'Siarad â fi 2', ond mynegwyd pryderon ynghylch ei weithrediad yn lleol y dywedir ei fod yn dameidiog.  

"Mae mwy na 300 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cyrraedd pwynt lle maen nhw o'r farn mai'r unig ffordd allan o sefyllfa yw trwy gymryd eu bywydau eu hunain," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Rydym am wybod beth sy'n cael ei wneud i helpu pobl sy'n teimlo fel hyn ac a ddylem ni fod yn gwneud mwy.

"Byddwn yn edrych ar faint y broblem a'i hachosion, effaith gymdeithasol ac economaidd hunanladdiadau ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru tuag at atal hunanladdiad.

"Mae hwn yn bwnc emosiynol iawn i lawer o bobl. Dylai unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan faterion sy'n ymwneud â hunanladdiad ac sy'n ystyried cyfrannu, wybod y bydd eu cyflwyniad yn cael ei drin yn sensitif.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried niweidio ei hunan neu gymryd ei fywyd ei hun i ofyn am help, naill ai trwy ei feddyg teulu neu wasanaethau cwnsela fel y Samariaid."

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad ymweld â gwefan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, neu ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.​

Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 8 Rhagfyr 2017.