Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Cyhoeddwyd 12/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru)

12 Rhagfyr 2013

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) wedi dechrau.

Cyflwynwyd y Bil gan Darren Millar, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl i'w enw gael ei dynnu ym malot deddfwriaethol y Llywydd.

Mae Mr Millar wedi gofyn i'r cyhoedd eisoes am awgrymiadau ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y Bil. Diben yr ymgynghoriad newydd hwn yw cael barn ac awgrymiadau ar gyfer fersiwn ddrafft o'r Bil ei hun.

Mae'r Bil drafft wedi ei lunio i fynd i'r afael â phryderon ynghylch rheoli a rheoleiddio meysydd carafannau gwyliau yng Nghymru, gan gynnwys:

  • pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phobl sy'n byw mewn carafannau yn anghyfreithlon;

  • yr adnoddau sydd ar gael i orfodi amodau gweithredu sydd ynghlwm wrth drwyddedau meysydd carafannau gwyliau;

  • priodoldeb pobl sy'n berchen ar feysydd carafannau gwyliau;

  • camdriniaeth rhai perchnogion meysydd carafannau gwyliau o berchnogion carafannau gwyliau ar eu safleoedd; a

  • cost darparu gwasanaethau cyhoeddus i’r rhai sy’n defnyddio carafannau gwyliau fel eu prif gartref.

Dywedodd Darren Millar, Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, "Fy mwriad o'r dechrau oedd cael cymaint o safbwyntiau a syniadau â phosibl er mwyn helpu i lunio amcanion y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru).

"Yn sgîl y cyfraniadau a'r gefnogaeth a gefais hyd yn hyn, rwyf wedi gallu llunio fersiwn ddrafft o'r Bil sy'n defnyddio Deddf Tai Symudol (Cymru) 2013 fel man cychwyn ac yn ei chymhwyso gydag addasiadau penodol i feysydd carafannau gwyliau.

"Ar gyfer yr ymgynghoriad hwn hoffwn, yn arbennig, glywed barn cyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant carafannau gwyliau, eu cwsmeriaid a'r rhai y bydd angen iddynt weithredu fy nghynigion, yn bennaf o fewn llywodraeth leol."

O dan y Rheolau Sefydlog, sy'n rheoli'r ffordd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithredu, rhaid cyflwyno'r Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) erbyn canol mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 24 Ionawr 2014.

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymgynghoriad anfon neges e-bost at swyddfaddeddfwriaeth@cymru.gov.uk, neu ysgrifennu at:

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ty Hywel

Cardiff Bay

CF99 1NA