Ymgynghoriad newydd yn edrych ar ffynonellau cyllid ar gyfer prosiectau mawr Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 13/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/03/2019

​Bydd ymchwiliad newydd yn adolygu'r ffynonellau cyllid cyfalaf gwahanol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru dalu am brosiectau mawr megis ffyrdd newydd ac ysbytai.

Bydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod pa ffrydiau cyllido sydd fwyaf effeithlon ac yn cynnig y gwerth gorau am arian i bwrs cyhoeddus Cymru.

Yn ogystal â'r Grant Bloc, y cyllid a ddyrennir i Gymru gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, caiff Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £1 biliwn ar gyfer prosiectau seilwaith mawr drwy Ddeddf Cymru 2017. Fodd bynnag, caiff benthyciad blynyddol ei gapio ar 15 y cant o gyfanswm y benthyciad ar £150 miliwn, sy'n gyson â phwerau benthyca'r Alban.

Mae'r ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cynnwys benthyg o Gronfa'r Benthyciadau Gwladol a thrwy fenthyciadau masnachol, cyhoeddi bondiau llywodraeth a modelau Partneriaeth Cyhoeddus-Preifat.

Bydd y Pwyllgor yn rhoi sylw manwl i Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru lle mae partneriaid preifat yn adeiladu ac yn cynnal asedau cyhoeddus. Yn gyfnewid am hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffi i'r partner preifat ar gyfer costau adeiladu, cynnal a chadw a chyllido'r prosiect.

Ar ddiwedd y contract, caiff yr ased ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn wahanol i'r Mentrau Cyllid Preifat a ddifrïwyd, gan ei fod yn hyrwyddo budd y cyhoedd, gan gynnwys llesiant a gwerth am arian.

Mae nifer o gynlluniau Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn yr arfaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys y canlynol:

  • Ailddatblygu Canolfan Ganser Felindre, Caerdydd
  • Cwblhau gwaith deuoli'r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun
  • Buddsoddiad ychwanegol ym Mand B o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

"Yn yr un ffordd ag mae angen i lawer o deuluoedd fenthyca arian, mae llywodraethau hefyd yn gorfod benthyca arian i dalu am brosiectau seilwaith mawr megis ffyrdd newydd neu ysgolion," dywedodd Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae'n hanfodol bod gweinidogion yn defnyddio'r dulliau cyllido mwyaf effeithiol sy'n darparu'r gwerth gorau posibl am arian i bwrs y wlad.

"Byddwn yn adolygu'r ffynonellau cyllid cyfalaf presennol, yn ogystal â modelau amgen fel rhan o'n hymchwiliad.

"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn i gyfrannu at ein hymgynghoriad."

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gael tan 23 Ebrill 2019. Gall unrhyw un a hoffai gael mwy o wybodaeth neu gyfrannu fynd i dudalennau gwe'r Pwyllgor Cyllid.