Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd am egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru).
Nod y Mesur, a gyflwynwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ddydd Llun 8 Mehefin, yw diogelu a gwella iechyd a lles pobl sy'n byw yng Nghymru ac fe'i cyfeiriwyd yn ffurfiol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Mawrth 9 Mehefin.
Mae'r Mesur yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:
Cynhyrchion tybaco a nicotin
Cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin fel sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig a sylweddol gaeedig, gan sicrhau bod y defnydd o'r dyfeisiau hyn yn cyd-fynd â'r darpariaethau presennol ar gyfer ysmygu.
Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin.
Ychwanegu troseddau at y drefn Gorchymyn Mangreoedd o dan Gyfyngiad. (Mae'r Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco mewn mangre).
Gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin i bobl dan 18 oed.
Triniaethau arbennig
Creu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n darparu 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio.
Cyflwyno gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o'r corff i bobl o dan 16 oed.
Gwasanaethau fferyllol
Newid y modd y mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau fferyllol drwy sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar asesiadau o angen fferyllol yn eu hardaloedd.
Darparu toiledau
Gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i baratoi strategaethau lleol ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a mynediad atynt, yn seiliedig ar anghenion eu cymunedau.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
"Mae'r Mesur yn ymdrin â nifer o faterion iechyd cyhoeddus, o gynhyrchion tybaco a nicotin, triniaethau fel aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a tatŵio, tyllu rhannau personol o'r corff i bobl o dan 16 oed a threfniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, i'r syniad o'i gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol baratoi strategaeth leol i gynllunio sut y byddant yn diwallu'r angen i ddarparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd.
"Mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am y ddeddfwriaeth arfaethedig ac yn croesawu barn unigolion a sefydliadau drwy Gymru."