Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, mae canfod yn gynnar yn allweddol i fynd i'r afael â diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc

Cyhoeddwyd 13/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae canfod yn gynnar yn allweddol i atal cymhlethdodau cymhleth a bygythiol i fywyd sy'n deillio o ddiabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc.

Lansiodd y Pwyllgor Deisebau ymchwiliad ar ôl cael deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sgrinio fel mater o drefn ar gyfer y salwch ymhlith plant a phobl ifanc.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan deulu Peter Baldwin, a fu farw'n 13 oed yn 2015. Yn wreiddiol, cafodd Peter ddiagnosis o haint ar y frest gan ei feddyg teulu ond aeth yn sâl y diwrnod canlynol a chael ei ruthro i'r ysbyty. Cynhaliodd y parafeddyg, a aeth i gludo Peter i'r ysbyty, brawf gwaed pigo bys, a chafod ddiagnosis math 1 yn y fan a'r lle. Yn anffodus, roedd Peter eisoes yn rhy wael a bu farw yn fuan wedyn.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod diabetes math 1 yn gyflwr prin, ac y gallai rhai meddygon teulu weld dim ond un achos newydd yn ystod eu gyrfa. Clywodd Aelodau'r Cynulliad nad oes llawer o ymwybyddiaeth gyffredinol a chydnabyddiaeth o'r salwch ymysg y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Er hynny, mae tua 1,400 o blant â diabetes yng Nghymru, gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt (96 y cant) â diabetes math 1. 

Clywodd y Pwyllgor bryderon y gallai diffyg mynediad at gyfarpar mewn gofal sylfaenol, fel y prawf glwcos yn y gwaed y gellir ei wneud drwy bigo bys hefyd fod yn ffactor a bod angen gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys nodi 4 prif symptom diabetes math 1 y '4T' yn Saesneg, sef Toiled, Syched, Blinder a Teneuach.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid gofyn cwestiynau am y symptomau hyn fel mater o drefn pan fydd plant a phobl ifanc gwael yn mynd i weld meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.

Mae hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod canllawiau NICE ar ddiagnosis diabetes math 1 yn cael eu gweithredu'n gyson ledled Cymru, gan gynnwys bod achosion posibl yn cael eu cyfeirio ar unwaith, bob amser, at ofal arbenigol.

Dywedodd David Rowlands AC, Cadeirydd y Pwyllgor, "Mae'n afraid dweud bod colli plentyn yn rhywbeth na all y rhan fwyaf o bobl ei ddychmygu, diolch byth, a dylai dewrder aruthrol teulu Peter wrth geisio defnyddio amgylchiadau mor ofnadwy i atal yr un sefyllfa rhag digwydd i eraill ennyn parch enfawr.

"Mae'r teulu Baldwin, yn enwedig Beth, Stuart a Lia, wedi ymdrechu'n ddewr i sicrhau y dylai'r drychineb a wynebwyd gan y teulu arwain at welliannau mewn ymwybyddiaeth ac adnabod diabetes math 1 mewn plant.

"Mae diagnosis prydlon yn hollbwysig oherwydd gall diabetes math 1 ddatblygu'n eithriadol o gyflym a gall fod yn beryglus iawn.

"Rydym yn cefnogi'r ddeiseb yn llawn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o beryglon diabetes math 1 a sut i'w ganfod ledled y GIG.

"Hoffwn ddiolch i'r teulu Baldwin am eu dewrder a'r agwedd gadarnhaol a gymerwyd ganddynt yn ystod y broses ddeisebu ac wrth weithio mor galed i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau bod symptomau '4T' diabetes math 1 yn cael eu gofyn yn rheolaidd pan fo plant a phobl ifanc yn cael eu cyflwyno i ofal sylfaenol, a bod profion diagnostig priodol, er enghraifft defnyddio profion glwcos yn y gwaed drwy bigo bys, yn cael eu gwneud ar unwaith pan fydd symptomau a allai fod yn arwydd o ddiabetes math 1 yn bresennol;

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod canllawiau NICE ar ddiagnosis diabetes math 1 yn cael eu gweithredu'n gyson yn GIG Cymru. Yn benodol drwy sicrhau bod clinigwyr gofal sylfaenol yn ymwybodol o symptomau'r "4T" o ddiabetes math 1 ac y dylid cynnal profion priodol ar frys, a bod achosion posibl o ddiabetes math 1 bob amser yn cael eu hatgyfeirio i ofal arbenigol ar unwaith; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrwydd gan fyrddau iechyd bod offer priodol ar gyfer profi glwcos yn y gwaed ar gael ym mhob lleoliad gofal sylfaenol perthnasol, a bod gan bob meddyg teulu fynediad at offer a all helpu i nodi achosion posibl o ddiabetes math 1 pan maent yn cyflwyno.

Bydd yr adroddiad a'i argymhellion yn cael eu hystyried nawr gan Lywodraeth Cymru gyda dadl i'w gynnal yn ystod y Cyfarfod Llawn yn yr hydref.

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc (PDF, 859 KB)