Yn ôl y Pwyllgor Cyllid, dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau benthyg er mwyn gallu datblygu’r economi

Cyhoeddwyd 03/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Yn ôl y Pwyllgor Cyllid, dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau benthyg er mwyn gallu datblygu’r economi

03 Gorffennaf

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau benthyg, heb i hynny effeithio’n negyddol ar grant bloc Cymru, i gyllido gwariant cyfalaf ac i hybu twf economaidd yng Nghymru.

Yn ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, mae’r Pwyllgor yn argymell, pe bai Llywodraeth Cymru yn cael pwerau o’r fath, y dylid eu gosod ar sylfaen ddeddfwriaethol gadarn a’u harfer yn gyfrifol, gan roi sylw dyledus i ba mor ddarbodus, cynaliadwy a fforddiadwy yw’r benthyca.

Yn ystod ei ymchwiliad i bwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf, edrychodd y Pwyllgor ar y trefniadau benthyg sydd ar waith ar hyn o bryd drwy’r Deyrnas Unedig, a’r gwersi y gellid eu dysgu gan lywodraeth leol a rhannau eraill o’r DU.

Cydnabu’r Pwyllgor bod angen sgiliau ar lefelau amrywiol i ddatblygu modelau ariannol arloesol a’u defnyddio, ac i fenthyg, yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o sefydlu canolfan arbenigedd yn yr Alban, ac i sicrhau bod gan y sector cyhoeddus yn gyffredinol yng Nghymru gyfle i ddefnyddio ffynhonnell arbenigedd ganolog i ategu’r gallu a’r capasiti sydd ganddo.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad, ac mae gan nifer o’r rhain gysylltiad agos â gwaith Comisiwn Silk (gweler y nodiadau i olygyddion).

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, a chyda cyllidebau cyfalaf yn gostwng o hyd, mae’n hanfodol bod llywodraethau’n gallu defnyddio adnoddau prin yn effeithiol i fuddsoddi arian cyfalaf, a fydd, ohono’i hun, yn gallu bod yn sbardun i gefnogi twf economaidd.

“Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion ar sail y dystiolaeth a glywsom. Mae llawer o’r argymhellion yn gysylltiedig â gwaith Comisiwn Silk, a gobeithiwn y bydd y Comisiwn yn ystyried ein hargymhellion wrth wneud ei waith.

“Gwnaethom argymhellion hefyd mewn perthynas ag agweddau ar gyllido sydd eisoes o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru, a gobeithiwn y bydd yr argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith.”

Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn a rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid yma.