Un o selogion Comic-Con, cornel stryd ym Mhenarth. Llun gan Nick Treharne.

Comic-Con enthusiast, street corner, Penarth. Picture by Nick Treharne.

Un o selogion Comic-Con, cornel stryd ym Mhenarth. Llun gan Nick Treharne.

Comic-Con enthusiast, street corner, Penarth. Picture by Nick Treharne.

Yr arferol a’r anarferfol: Portread o Gymru

Cyhoeddwyd 06/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Portread o Gymru, arddangosfa o ddelweddau yn arddangos y Gymru gyfoes gan y ffotograffydd Nick Treharne, yn dod i’r Senedd wythnos nesaf.

Mae’r arddangosfa, sy’n rhedeg rhwng 13 Medi a 9 Tachwedd, yn gyfres o ffotograffau sy’n arsylwi pobl ledled Cymru, ac mae ar agor i’r cyhoedd yn y Senedd mewn partneriaeth â’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’r delweddau’n gofnod o’r arferol a’r anarferol: digwyddiadau a thraddodiadau sy’n rhan annatod o fywyd Cymru, yn ogystal â chymeriadau ysbrydoledig a diddorol.

Guto Roberts, Tirmon, Harbwr Caernarfon. Llun gan Nick Treharne.

Fe wnaeth Nick Treharne, a ddechreuoedd y prosiect yn 2018, deithio ar hyd a lled Cymru, gan sgwrsio â’r bobl a welodd ar y hyd y ffordd a gofyn i dynnu eu llun. Disgrifiodd ei brosiect fel “y bobl rwy’n cwrdd â nhw, y pethau rwy’n eu gweld”.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi ychwanegu delweddau’r ffotograffydd at Gasgliad y Werin, sef gwefan am ddim sy’n tynnu treftadaeth Cymru ynghyd. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i bron 1 miliwn o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru. Mae’r rhain yn amrywio o weithiau gan ffotograffwyr arloesol o ddyddiau cynnar ffotograffiaeth i bortffolios gan ffotograffwyr cyfoes.

Wrth drafod ei arddangosfa newydd, dywedodd Nick Treharne, “Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn pobl a’r pethau o fy amgylch a allai helpu i greu delwedd ddiddorol.

“Mae’r ffaith bod y Senedd a’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth i arddangos delweddau o’r prosiect yn wych o beth, gan roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl gael gweld y gwaith.”

Rownd derfynol Miss Transgender UK, Gwesty’r Angel, Caerdydd. Llun gan Nick Treharne.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, “Rydw i wrth fy modd ein bod wedi gallu cynnal arddangosfa’r ffotograffydd Nick Treharne ‘Portread o Gymru’ yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.

“Rhan allweddol o waith y Llyfrgell Genedlaethol yw cysylltu a chydweithredu â Chymunedau ledled y wlad a darparu lle i ddehingli a thrafod agweddau ar y Gymru gyfoes. Mae gallu gwneud hynny yn ein Senedd yn gyfle cyffrous.”