Bydd yr arweinydd enwog o Gymru, Owain Arwel Hughes, yn rhannu ei farn ar gerddoriaeth mewn addysg â Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Iau 12 Ionawr yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Sefydlodd Mr Hughes Proms Cymru ac mae wedi bod yn arweinydd ar y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Ffilharmonia a Cherddorfa Symffoni Aalborg yn Nenmarc.
Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Camerata Cymru, cerddorfa lawrydd, ac mae wedi gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Dechreuodd y Pwyllgor ei ymchwiliad i gerddoriaeth mewn addysg yn dilyn arolwg cyhoeddus a bydd yn casglu tystiolaeth yn ystod tymor y gwanwyn cyn cyhoeddi ei ganfyddiadau.
Dywedodd Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed yr hyn sydd gan Owain Arwel Hughes i’w ddweud.
"Mae’n cynrychioli Cymru ar frig y diwydiant cerddoriaeth, ond mae hefyd wedi rhoi o’i amser yn cefnogi’r to nesaf o artistiaid a cherddorion, gan gynnwys ei waith gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru."
Caiff y cyfarfod ei gynnal am 10.30 yn Ystafell Bwyllgora 2 yn y Senedd. Gall unrhyw un sydd am wylio’r cyfarfod wneud hynny naill ai ar-lein ar Senedd TV neu drwy archebu sedd yn yr oriel gyhoeddus ar linell archebu’r Cynulliad Cenedlaethol, 0300 200 6565.