Yr enghreifftiau gorau o bensaernïaeth Gymreig yn dod i’r Senedd

Cyhoeddwyd 27/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Yr enghreifftiau gorau o bensaernïaeth Gymreig yn dod i’r Senedd

Cynhelir arddangosfa o waith pensaernïol mwyaf arloesol a modern Cymru yn y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, rhwng 25 Hydref a 2 Tachwedd 2008.

Bydd yr arddangosfa ‘Adlewyrchu Cymru’ yn arddangos yr amrywiaeth a’r ansawdd o waith dylunio pensaernïol, yn waith adeiledig neu gysyniadol, gan ddylunwyr yng Nghymru a chwmnïau dylunio Cymreig y tu allan i Gymru. Dewiswyd 25 o ddarnau o waith sy’n archwilio a herio’r amgylchedd adeiledig gan banel o feirniaid yn dilyn gwahoddiad agored.  Bydd yr arddangosfa’n cynnwys prosiectau sydd ar waith yn Aberhonddu, Casnewydd, y Mwmbwls, Tonypandy, Copenhagen, yr Almaen a Brighton. Bydd gosodiad celf yn yr arddangosfa yn astudio’r broses ddylunio bensaernïol a bydd arolwg ffotograffig yn edrych ar harddwch yn yr amgylchedd trefol yng Nghymru. Bydd hefyd yn cynnwys ffilm o daith ar feic, arsylwadau o daith gerdded ddyddiol drwy amgylchedd trefol Caerdydd a manylion cynnig am ddigwyddiad balwn rhyngweithiol. Hefyd, dangosir rhai o’r syniadau dylunio ar gyfer adfywio Basn y Rhath ger adeilad y Cynulliad.

Cynhelir arddangosfa ‘Adlewyrchu Cymru’ gan Design Circle, a noddir gan Stradform Ltd ac mae’n ddigwyddiad allweddol fel rhan o Wyl Dylunio Caerdydd.

Wrth lansio’r digwyddiad, dywedodd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad:

“Rwy’n hynod o falch bod y Senedd yn mynd i gynnal arddangosfa a fydd yn amlygu pwysigrwydd dylunio da ac ansawdd pensaernïaeth yng Nghymru. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cipolwg o syniadaeth feirniadol y byd pensaernïol ynghylch yr amgylchedd adeiledig ac mae’n dathlu dylunio arloesol a’r modd y mae syniadau ym maes pensaernïaeth, celf, dylunio ac addysg yng Nghymru yn gorgyffwrdd.”

Agorir yr arddangosfa am ddim i’r cyhoedd ddydd Sul 26 Hydref, a bydd yno tan 2 Tachwedd. Bydd yn bosibl edrych ar yr arddangosfa ar ôl y dyddiad hwn ar wefan Design Circle, http://www.designcirclersawsouth.co.uk.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Syniad Design Circle a Chomisiwn Dylunio Cymru fel rhan o Wyl Dylunio Caerdydd 2008 yw’r arddangosfa. Fe’i noddir gan Stradform Ltd, cwmni adeiladu sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac sydd â swyddfeydd rhanbarthol yn Abertawe a Bryste.

  2. Design Circle yw cangen De Cymru o Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru. Am fwy o fanylion: www.designcirclersawsouth.co.uk neu cysylltwch â Pierre Wassenaar, Ysgrifennydd:  pierre@designcirclersawsouth.co.uk neu 07771580647.

  3. Manylion Panel Beirniaid yr Arddangosfa:

  4. Yr Athro Richard Weston - Ysgol Bensaernïol Cymru

  5. Patrick Hannay – Cyfarwyddwr cwrs Pensaernïaeth Fewnol UWIC, golygydd Touchstone

  6. Philip O’Reilly – Uwch ddarlithydd yn Adran Celf Gain UWIC

  7. Cany Ash – Prif bensaer cwmni Penseiri AshSakula

  8. Gordon Murray – Prif bensaer cwmni Penseiri Gordon Murray + Alan Dunlop, cyn Lywydd y Royal Incorporation of Architects yn yr Alban

  9. Chris Loyn – Penseiri Loyn & Co. Architects. Mae’n adnabyddus am ei ymddangosiadau ar raglen “Hot Houses” BBC Cymru.