Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Newidiadau i Etholiadau ac Aelodau'r Senedd
Mae eich Senedd yn newid
Gan ddechrau gyda'r etholiad ar 7 Mai 2026, mae'r Senedd yn newid.
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- 96 o Aelodau: O'r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
- System bleidleisio newydd: Bydd gan bawb sy’n 16+ un bleidlais nawr, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
- Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 o etholaethau. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
- Rheolau newydd: Rhaid i unrhyw un sy'n sefyll etholiad fyw yng Nghymru.
Faint o Aelodau fydd gan y Senedd?
Gan ddechrau gyda'r etholiad ar 7 Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
Ers 25 mlynedd, mae nifer yr Aelodau yn y Senedd wedi aros yr un fath, er bod ganddi fwy o gyfrifoldebau erbyn hyn, fel pwerau deddfu llawn a’r gallu i newid rhai trethi yng Nghymru.
Bydd cael mwy o Aelodau yn helpu’r Senedd i wella’r ffordd mae’n archwili ac yn herio cynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru ar faterion pwysig megis ysbytai, ysgolion a thrafnidiaeth. Bydd hyn yn rhoi llais cryfach i'ch cymuned yn y penderfyniadau hyn.
Gyda 96 o Aelodau, mae nifer y cynrychiolwyr a fydd gennych chi yn y Senedd yn cyfateb i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru - fel yr Alban sydd â 129 o Aelodau a Gogledd Iwerddon sydd â 90.
Beth sy'n newydd?
Bydd pleidleiswyr yn ethol 96 o Aelodau.
Bydd gennych chi chwe Aelod yn eich cynrychioli chi yn y Senedd.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad fod yn byw yng Nghymru.

Sut mae'r system bleidleisio yn newid?
Bydd y ffordd y byddwch chi’n pleidleisio yn newid.
Os ydych chi dros 16 oed, gallwch chi bleidleisio yn etholiad y Senedd yn 2026. Byddwch chi’n cael un bleidlais i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer eich cymuned yn y Senedd.
Enw’r system bleidleisio newydd yw’r 'system rhestr gyfrannol gaeedig'. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol, yn hytrach na phobl unigol.
Bydd y papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly byddwch chi’n dal i allu gweld dros bwy rydych chi’n pleidleisio.
Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.
Bydd seddau’n adlewyrchu canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei chael.
Rhagor o wybodaeth: Sut bydd y system bleidleisio newydd yn gweithio ar gyfer etholiad nesaf y Senedd?
Beth sy'n newydd?
Bydd gennych chi un bleidlais a phapur pleidleisio i ddewis eich cynrychiolwyr yn y Senedd, yn hytrach na dwy bleidlais ar wahân fel mewn etholiadau blaenorol.
Pan fyddwch chi'n pleidleisio, byddwch chi'n dewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol i’ch cynrychioli.
O 2026 ymlaen, bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.

Sut mae etholaethau'n newid?
Bydd gan Gymru 16 o etholaethau newydd yn lle 40.
Bydd gan bob etholaeth newydd chwe Aelod, sy’n golygu y bydd cyfanswm o 96 Aelod yn cael eu hethol i’r Senedd.
Creodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru yr ardaloedd newydd drwy baru’r 32 etholaeth sydd gan Gymru ar gyfer Senedd y DU. Gwnaeth y Comisiwn hefyd ystyried ffiniau lleol, ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth, a nodweddion naturiol fel afonydd a mynyddoedd.
Gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth newydd drwy deipio eich cod post yn ein map i ddod o hyd i etholaethau
Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad 2026:
- Bangor Conwy Môn
- Clwyd
- Fflint Wrecsam
- Gwynedd Maldwyn
- Ceredigion Penfro
- Sir Gaerfyrddin
- Gŵyr Abertawe
- Brycheiniog Tawe Nedd
- Afan Ogwr Rhondda
- Pontypridd Cynon Merthyr
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
- Sir Fynwy Torfaen
- Casnewydd Islwyn
- Caerdydd Penarth
- Caerdydd Ffynnon Taf
- Pen-y-bont Bro Morgannwg
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru sy'n gyfrifol am greu ardaloedd yr etholaethau newydd. Cewch ragor o wybodaeth ar ei wefan.
Beth sy'n newydd?
Bydd gan Gymru 16 o etholaethau.
Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod o’r Senedd.

Cwestiynau cyffredin
Bydd etholiad nesaf y Senedd ar 7 Mai 2026.
Mae'r newidiadau i'r Senedd wedi bod yn destun nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus. Mae'r rhai allweddol yn cynnwys:
- Yn 2011, cafwyd pleidlais gyhoeddus (refferendwm) ynghylch a ddylai'r Cynulliad ar y pryd gael rhagor o bwerau deddfu. Roedd 63.5% o bleidleiswyr o blaid y newid.
- Yn 2018, cynhaliwyd ymgynghoriad gan Gomisiwn y Senedd: Creu Senedd i Gymru – adroddiad ar yr ymgynghoriad.
- Yn 2023, cynhaliwyd ymgynghoriad gan y Pwyllgor Biliau Diwygio. Gallwch ddarllen yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad ac adroddiad y Pwyllgor ar wefan y Senedd.
- Yn 2024, cynhaliodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau arfaethedig i etholaethau, a ddaeth i ben ym mis Medi. Bydd yn cynnal ymgynghoriad arall ym mis Rhagfyr 2024. Gallwch weld y cynigion ar ei wefan.
I gael rhagor o wybodaeth am hanes diwygiadau i'r Senedd, gweler erthygl y Gwasanaeth Ymchwil: Diwygio’r Senedd – y stori hyd yma.
Bydd siambr drafod y Senedd, y Siambr, yn cael ei newid i ddarparu lle ar gyfer pob un o'r 96 o Aelodau. Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill 2025 ac yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2026.