Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Pwerau

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Y Model Cadw Pwerau

Mae Deddf Cymru 2017 yn darparu setliad datganoli newydd i Gymru, yn disodli Model Rhoi Pwerau gyda Model Cadw Pwerau. Mae’r Model Cadw Pwerau yn caniatáu i’r Senedd ddeddfu ar faterion nad ydynt wedi’u cadw i Senedd y DU.

Mae nifer o brofion cyfreithiol o hyd y mae’n rhaid eu pasio o dan y Model Cadw Pwerau, er enghraifft, ni ddylai Deddfau’r Senedd ymwneud ag unrhyw fater a gadwyd yn yr Atodlen 7A newydd (fel caethwasiaeth fodern, trydan, cludiant ar ffyrdd a rheilffyrdd, meddyginiaethau).

Hefyd, rhaid i Ddeddfau’r Senedd beidio â thorri unrhyw un o’r cyfyngiadau a nodir yn yr Atodlen 7B newydd. 

Atodlen 7A: Materion a gadwyd yn ôl

Rhestrir y penawdau pwnc canlynol yn yr Atodlen 7A newydd, sy’n cynnwys yr holl faterion a gedwir gan Senedd y DU.

Rhan 1 – Materion a Gadwyd Cyffredinol

  • Y Cyfansoddiad
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Pleidiau gwleidyddol
  • Awdurdodaeth gyfreithiol unigol Cymru a Lloegr
  • Tribiwnlysoedd
  • Materion tramor ac ati
  • Amddiffyn

Rhan 2 – Materion a Gadwyd Penodol

Pennawd A – Materion Ariannol ac Economaidd

Adran A1 – Polisi ariannol, economaidd ac ariannol

Adran A2 – Yr arian cyfred

Adran A3 – Gwasanaethau ariannol

Adran A4 – Marchnadoedd ariannol

Adran A5 – Cyfrifon segur

Pennawd B – Materion Cartref

Adran B1 – Etholiadau

Adran B2 – Cenedligrwydd a mewnfudo

Adran B3 – Diogelwch cenedlaethol a chyfrinachau swyddogol

Adran B4 – Cysyniad o gyfathrebu, data cyfathrebu a gwyliadwriaeth

Adran B5 – Troseddu, trefn gyhoeddus a phlismona

Adran B6 – Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Adran B7 – Caethwasiaeth fodern

Adran B8 – Puteindra

Adran B9 – Pwerau brys

Adran B10 – Estraddodi

Adran B11 – Adsefydlu troseddwyr

Adran B12 – Cofnodion troseddol

Adran B13 – Eitemau peryglus

Adran B14 – Camddefnyddio neu fasnachu cyffuriau neu sylweddau seicoweithredol

Adran B15 – Diogelwch preifat

Adran B16 – Adloniant a lluniaeth hwyr y nos

Adran B17 – Alcohol

Adran B18 – Betio, hapchwarae a loterïau

Adran B19 – Hela

Adran B20 – Gweithdrefnau gwyddonol ac addysgol ar anifeiliaid byw

Adran B21 – Is-gapteniaethau

Adran B22 – Elusennau a chodi arian

Pennawd C – Masnach a Diwydiant

Adran C1 – Cymdeithasau busnes ac enwau busnes

Adran C2 – Ansolfedd a dirwyn i ben

Adran C3 – Cystadleuaeth

Adran C4 – Eiddo deallusol

Adran C5 – Rheoli mewnforio ac allforio

Adran C6 – Diogelu defnyddwyr

Adran C7 – Safonau a diogelwch cynnyrch, ac atebolrwydd

Adran C8 – Pwysau a mesurau

Adran C9 – Telathrebu a thelegraffeg di-wifr

Adran C10 – Y Post

Adran C11 – Cynghorau Ymchwil

Adran C12 – Datblygiad diwydiannol

Adran C13 – Diogelu masnachu a buddiannau economaidd

Adran C14 – Cymorth mewn cysylltiad ag allforion nwyddau a gwasanaethau

Adran C15 – Dŵr a charthffosiaeth

Adran C16 – Dyfarnwr Cod Tafarndai a Chod y Tafarndai

Adran C17 – Masnachu dydd Sul

Pennawd D – Ynni

Adran D1 – Trydan

Adran D2 – Olew a nwy

Adran D3 – Glo

Adran D4 – Ynni niwclear

Adran D5 – Gwresogi ac oeri

Adran D6 – Arbed ynni

Pennawd E – Trafnidiaeth

Adran E1 – Trafnidiaeth ar y ffyrdd

Adran E2 – Trafnidiaeth rheilffyrdd

Adran E3 – Trafnidiaeth ar y môr ac ar ddyfrffyrdd

Adran E4 – Trafnidiaeth awyr

Adran E5 – Diogelwch trafnidiaeth

Adran E6 – Materion eraill

Pennawd F – Nawdd Cymdeithasol, Cynnal Plant, Pensiynau ac Iawndal

Adran F1 – Cynlluniau nawdd cymdeithasol

Adran F2 – Cynnal Plant

Adran F3 – Pensiynau Galwedigaethol a Phensiynau Personol

Adran F4 – Iawndal y sector cyhoeddus

Adran F5 – Iawndal y lluoedd arfog ac ati

Pennawd G – Proffesiynau

Adran G1 – Penseiri, archwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a milfeddygon

Pennawd H – Cyflogaeth

Adran H1 – Cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol

Adran H2 – Byrddau hyfforddi diwydiannol

Adran H3 – Chwilio am swyddi a chymorth

Pennawd J – Iechyd, Diogelwch a Meddyginiaethau

Adran J1 – Erthyliad

Adran J2 – Xenodrawsblaniad

Adran J3 – Embryoleg, mamau benthyg a geneteg

Adran J4 – Meddyginiaethau, cyflenwadau meddygol, sylweddau biolegol ac ati.

Adran J5 – Bwydydd lles

Adran J6 – Iechyd a diogelwch

Pennawd K – Y cyfryngau, diwylliant a chwaraeon

Adran K1 – Y cyfryngau

Adran K2 – Hawl benthyca cyhoeddus

Adran K3 – Cynllun Indemniad y Llywodraeth

Adran K4 – Rhyddhad ar gyfer eiddo a dderbynnir i dalu treth

Adran K5 – Meysydd chwaraeon

Pennawd L – Cyfiawnder

Adran L1 – Y proffesiwn cyfreithiol, gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau rheoli hawliadau

Adran L2 – Cymorth cyfreithiol

Adran L3 – Crwneriaid

Adran L4 – Cyflafareddu

Adran L5 – Gallu meddyliol

Adran L6 – Data personol

Adran L7 – Hawliau gwybodaeth

Adran L8 – Gwybodaeth sector cyhoeddus

Adran L9 – Cofnodion cyhoeddus

Adran L10 – Iawndal ar gyfer pobl y mae trosedd a chamgymeriadau cyfiawnder yn effeithio arnynt

Adran L11 – Carchardai a rheoli troseddwyr

Adran L12 – Cysylltiadau teuluol a phlant

Adran L13 – Cydnabyddiaeth rhyw

Adran L14 – Cofrestru genedigaethau, marwolaethau a mannau addoli

Pennawd M – Tir ac Asedau Amaethyddol

Adran M1 – Cofrestru tir

Adran M2 – Cofrestru pridiannau a debenturau amaethyddol

Adran M3 – Datblygiad ac adeiladau

Pennawd N – Amrywiol

Adran N1 – Cyfle Cyfartal

Adran N2 – Rheoli arfau

Adran N3 – Arolwg Ordnans

Adran N4 – Amser

Adran N5 – Gofod allanol

Adran N6 – Antarctica

Adran N7 – Mwyngloddio gwely môr dwfn

Atodlen 7B: Cyfyngiadau

Mae Atodlen 7B yn nodi rhai cyfyngiadau ar bwerau’r Senedd. Er enghraifft, o ran Deddfau’r Senedd:

  • rhaid iddynt beidio fel arfer ag addasu’r gyfraith ar faterion a gadwyd;
  • rhaid iddynt beidio ag addasu cyfraith breifat (fel contractau, camwedd, eiddo) oni bai ei fod ar gyfer pwrpas datganoledig;
  • rhaid iddynt beidio ag addasu troseddau penodol (fel troseddau difrifol yn erbyn y person ac unrhyw droseddau rhywiol) a rhaid iddynt beidio ag addasu rheolau penodol yn ymwneud â chyfraith droseddol (fel yr oedran y gall person gyflawni trosedd ac ystyr anonestrwydd);
  • rhaid iddynt beidio ag addasu deddfiadau penodol fel Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Argyfyngau Sifil 2004;
  • rhaid iddynt beidio â newid unrhyw ran o Ddeddf 2006 oni bai bod eithriad yn gymwys;
  • rhaid iddynt beidio â chyflwyno neu orfodi swyddogaethau ar awdurdodau a gadwyd (fel Gweinidogion y Goron, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) heb ganiatâd Llywodraeth y DU.