Arian

Arian

Cyflogau a Threuliau Aelodau o'r Senedd

Cyhoeddwyd 16/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae gan Aelodau o’r Senedd yr hawl i ddefnyddio adnoddau i gyflogi staff a rhedeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn ymdrin â materion ac achosion sy’n peri pryder i’r bobl y maent yn eu cynrychioli.

Gallant hefyd hawlio ad-daliad am unrhyw gostau y byddant yn eu hysgwyddo pan fydd angen iddynt aros dros nos o’u prif gartref wrth gyflawni dyletswyddau swyddogol y Senedd.

Cyflogau a Threuliau Aelodau o'r Senedd

Mae gwybodaeth am gyflogau’r Aelodau ar gael ar wefan Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.  Bwrdd Taliadau

Mae’r rheolau’n gysylltiedig â’r hyn y cânt ei hawlio wedi’u nodi mewn ‘Penderfyniad’.  Penderfyniad (bwrddtaliadau.cymru)

Ers 2008, caiff yr hawliadau uchod eu cyhoeddi ar-lein a gellir chwilio drwyddynt drwy ddefnyddio’r System Cyhoeddi Lwfansau. Gellir chwilio’n ôl mis, math o lwfans, gwariant neu hyd yn oed yn ôl Aelod o'r Senedd. Cânt eu rhestru’n ôl y mis yr hawliwyd y lwfans, nid y dyddiad yr ysgwyddwyd y gost, a chânt eu cyhoeddi dri mis wedyn.

Ffigurau dros dro yw’r rhain a gallant newid yn dilyn archwiliad allanol. Hefyd, os yw manylion hawliad yn golygu y bydd yn rhaid datgelu data personol sensitif neu’n gallu peryglu diogelwch (e.e. gwybodaeth yn ymwneud â chyfeiriad cartref, manylion siwrnai arferol neu gyflwr meddygol) ni fydd y manylion hynny’n cael eu cynnwys. Mae hyn yn ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Rhyddid Gwybodaeth (y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) 2008.

Lwfans Gwariant ar Staffio (a Thaliadau Goramser Aelodau o'r Teulu)

O fis Ebrill 2019 bydd Comisiwn y Senedd yn cyhoeddi gwariant staffio blynyddol pob Aelod o'r Senedd. Nid yw Aelodau o'r Senedd sy'n cyflogi dau neu lai o staff yn ystod blwyddyn ariannol yn cael eu cynnwys yn y daenlen i sicrhau bod staff yn aros yn anhysbys. Sylwer: Mae yna Aelodau sy'n cael lwfans ychwanegol (Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol) oherwydd nad ydynt yn rhan o Blaid Wleidyddol. Gall Aelodau drosglwyddo cyfran o'r arian rhwng eu lwfansau, sy'n eu galluogi i gynyddu un gyllideb dros un arall. At hynny, o 1 Ebrill 2020, cyhoeddir enw, rôl, perthynas a band cyflog yr holl staff a gyflogir sy’n aelodau o deulu Aelod ynghyd â’r goramser wythnosol cyfartalog a delir i aelodau’r teulu yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20.

Pennod 3A Cymorth ychwanegol

Mae’r wybodaeth isod yn gyhoeddiad blynyddol o Hawliadau dienw, agregedig o dan Bennod 3A o’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol.

Mae’r hawliadau am wariant a wneir o dan y Bennod hon at ddibenion darparu cefnogaeth ychwanegol i Aelodau anabl neu ymgysylltu ag etholwyr anabl (adran 3A.2), Aelodau â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill (adran 3A.3), ac Aelodau ar absenoldeb rhiant (adran 3A.4).

Pennod 3A Cymorth Ychwanegol Chapter 3A Additional Support

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd