Arian

Arian

Cyflogau a Threuliau Aelodau o'r Senedd

Cyhoeddwyd 16/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/05/2026   |   Amser darllen munudau

Mae gan Aelodau o’r Senedd yr hawl i ddefnyddio adnoddau i gyflogi staff a rhedeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn ymdrin â materion ac achosion sy’n peri pryder i’r bobl y maent yn eu cynrychioli.

Gallant hefyd hawlio ad-daliad am unrhyw gostau y byddant yn eu hysgwyddo pan fydd angen iddynt aros dros nos o’u prif gartref wrth gyflawni dyletswyddau swyddogol y Senedd.

Cyflogau a Threuliau Aelodau o'r Senedd

Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd sy'n penderfynu faint o dâl y mae Aelodau'r Senedd yn ei gael, pa gostau y gall Aelodau eu hawlio a'r rheolau ynghylch yr hyn y mae ganddynt hawl i'w hawlio. Mae’r penderfyniadau hynny wedi’u nodi mewn dogfen o’r enw y Penderfyniad.


Rhaid i Gomisiwn y Senedd sicrhau bod gwybodaeth ynghylch y symiau sy’n cael eu talu i bob Aelod unigol o’r Senedd fel cyflog a lwfansau, a’r cyfanswm sy’n cael ei dalu i holl Aelodau o’r Senedd fel cyflogau a lwfansau, yn cael ei chyhoeddi ar gyfer pob blwyddyn ariannol.


Mae hawliadau a delir sy'n ymwneud â theithio, llety dros nos a gwaith etholaethol am gostau sy'n ymwneud ag Aelod yn cyflawni ei ddyletswyddau wedi'u cyhoeddi ar-lein a gellir chwilio amdanynt gan ddefnyddio'r System Cyhoeddi Lwfansau. Gallwch chwilio yn ôl mis, math o lwfans, gwariant neu Aelod o'r Senedd. Rhestrir hawliadau yn ôl y mis y gwnaed yr hawliad, nid y dyddiad y gost, ac fe'u cyhoeddir dri mis yn ôl-ddyledion.

Os yw manylion hawliad yn golygu y bydd yn rhaid datgelu data personol sensitif neu’n gallu peryglu diogelwch (e.e. gwybodaeth yn ymwneud â chyfeiriad cartref neu gyflwr meddygol) bydd y manylion hynny’n cael eu hepgor o’r cyhoeddiad. Fodd bynnag, bydd swm yr hawliadau hyn, ynghyd â chostau staffio, yn cael eu cynnwys yn y cyfanswm cyhoeddedig a delir i neu a ysgwyddir gan Aelodau unigol yn flynyddol. 


Mae mynediad at wybodaeth hanesyddol ychwanegol ar gael hefyd 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd