Apeliadau ffurfiol ar Dreuliau Aelodau

Cyhoeddwyd 08/04/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/04/2024   |   Amser darllen munudau

Er mwyn sicrhau cysondeb a sicrwydd wrth gymhwyso’r Penderfyniad, mae’n rhaid i dîm Cymorth Busnes yr Aelodau gynnal a chyhoeddi cofnod o unrhyw gwestiwn a gyfeiriwyd at y Prif Weithredwr a Chlerc o dan baragraff 1.4.1 o’r penderfyniad y daethpwyd iddo a’r rhesymau dros y penderfyniad. Ni ddylai’r cofnod a gyhoeddwyd, cyn belled ag y bo modd, gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n datgelu pwy yw’r Aelod unigol.

2023/24 Apeliadau

  1. Mae'r Prif Weithredwr a’r Clerc yn cael apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu cyllid ar gyfer hawliad nad oedd yn cydymffurfio â’r Rheolau a'r Canllawiau ar y ddefnydd o adnoddau'r Senedd. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a'r Clerc y penderfyniad i wrthod y cyllid ar gyfer yr hawliad.

2022/23 Apeliadau

  1. Gwnaed apêl i’r Prif Weithredwr a’r Clec yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu cyllid ar gyfer hawliad nad oedd yn ymlynu wrth y Rheolau a’r Canllawiau ar ddefnyddio Adnoddau’r Senedd. Mae Adran 1.3.8 o’r Penderfyniad yn nodi: ‘Rhaid i’r Aelodau geisio sicrhau bod unrhyw wariant a ysgwyddir yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr, mai dyna’r opsiwn mwyaf cynaliadwy a rhesymol sydd ar gael, ac nad yw’n cael effaith negyddol ar enw da y Senedd neu ei Aelodau.’ Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a’r Clerc y penderfyniad i wrthod cyllid ar gyfer yr hawliad.

  2. Gwnaed apêl i’r Prif Weithredwr a Chlerc yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu cyllid ar gyfer hawliad oherwydd yr amser a oedd wedi mynd heibio ers i'r gost gael ei hysgwyddo. Mae Adran 2.3.2 o'r Penderfyniad yn nodi: ‘Rhaid i’r Aelodau sicrhau bod y ffurflen gais berthnasol yn cael ei llenwi’n fanwl gywir a’i chyflwyno’n brydlon i’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau.’ Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a’r Clerc y penderfyniad i wrthod cyllid ar gyfer yr hawliad.

2021/22 Apeliadau

Nid oedd unrhyw apeliadau yn 2021/22

2020/21 Apeliadau

  1. Cafodd y Prif Weithredwr a’r Clerc apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu’r defnydd o gyllid at ddibenion defnyddio ystafell i hwyluso cyfarfod tîm. Mae Adran 1.3.8 o'r Penderfyniad yn nodi: ‘Rhaid i’r Aelodau geisio sicrhau bod unrhyw wariant a ysgwyddir yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr, mai dyna’r opsiwn mwyaf cynaliadwy a rhesymol sydd ar gael, ac nad yw’n cael effaith negyddol ar enw da y Senedd neu ei Aelodau.’ Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a’r Clerc y penderfyniad i wrthod cyllid at y diben hwn.

  2. Ceisiodd grŵp ddefnyddio tanwariant Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol i ariannu arolwg. Cefnogodd y Prif Weithredwr a Chlerc yr apêl.

  3. Gwnaed apêl i’r Prif Weithredwr a Chlerc yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu cyllid ar gyfer newidiadau i arwyddion swyddfa. Nodir yn Adran 1.3.8 o'r Penderfyniad: “Rhaid i’r Aelodau geisio sicrhau bod unrhyw wariant a ysgwyddir yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr, mai dyna’r opsiwn mwyaf cynaliadwy a rhesymol sydd ar gael, ac nad yw’n cael effaith negyddol ar enw da y Senedd neu ei Aelodau.” Cefnogodd y Prif Weithredwr a Chlerc y penderfyniad i wrthod cyllid at y dibenion hyn.

  4. Gwnaed apêl i’r Prif Weithredwr a Chlerc yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu cyllid ar gyfer hawliad oherwydd yr amser a oedd wedi mynd heibio ers i'r gost gael ei hysgwyddo. Nodir yn Adran 2.3.2 o'r Penderfyniad: “Rhaid i Aelodau sicrhau bod y ffurflen gais berthnasol yn cael ei llenwi’n gywir a’i chyflwyno i’r Tîm Cymorth Busnes i Aelodau yn unol â’r terfynau amser”. Ar ôl ystyried gwybodaeth bellach am y rhesymau dros yr oedi, penderfynodd y Prif Weithredwr a Chlerc gefnogi’r apêl.

  5. Cyflwynwyd apêl i’r Prif Weithredwr a’r Clerc yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu secondio staff rhwng Aelod a Grŵp Plaid yn y Senedd. Cadarnhawyd y apêl.

  6. Cyflwynwyd apêl i’r Prif Weithredwr a’r Clerc yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu i gyllid o’r Gwariant Staffio, sy’n cael eu defnyddio i dalu costau cysylltiedig â theithio, gael ei gysylltu â danfoniadau banciau bwyd. Mae Paragraff 1.3.1 o’r Penderfyniad yn nodi: “Dim ond am wariant y bu’n rhaid ei ysgwyddo er mwyn i ddyletswyddau’r Aelod fel Aelod o’r Senedd gael eu cyflawni y caniateir i gais gael ei wneud”. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a’r Clerc y penderfyniad i wrthod defnyddio cyllid at y diben hwn.

  7. Gwnaeth Grŵp gais am fynediad at gronfeydd, o'i lwfans Grŵp, ar gyfer cyngor cyfreithiol allanol mewn perthynas â dau fater.  Yn gyntaf, gofynnwyd am gyngor ynghylch cynllun interniaeth posibl a oedd yn targedu ymgeiswyr BAME.  Yn ail, gofynnwyd am gyngor ynghylch trefniadau mewnol y Grŵp.  Mae paragraff 8.1.1 o'r Penderfyniad yn darparu bod y lwfans yn bodoli i helpu pleidiau i gyflawni eu gwaith yn y Senedd.  Dim ond mewn perthynas â chostau a ysgwyddir yn gyfan gwbl, yn unig ac o reidrwydd er mwyn cyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau y mae’r lwfans yn daladwy.  Nid oedd y Prif Weithredwr na'r Clerc o'r farn bod y ddau gais yn dod o fewn cwmpas paragraff 8.1.1, ac yn sgil hynny, gwrthodwyd yr apêl.


2019/20 Apeliadau

  1. ​Cafodd y Prif Weithredwr a Chlerc apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu cyllid i brynu data yn ymwneud ag etholwyr. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a Chlerc y penderfyniad oherwydd pryderon ynghylch cydymffurfio â chyfraith diogelu data.

  2. Derbyniodd y Prif Weithredwr a Chlerc apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu i arian o'r lwfans Costau Swyddfa gael ei ddefnyddio i hyrwyddo fideo. Mae Paragraff 1.3.1 o'r Penderfyniad yn nodi: ‘Dim ond am wariant y bu’n rhaid ei ysgwyddo er mwyn i ddyletswyddau’r Aelod fel Aelod o'r Senedd gael eu cyflawni y caniateir i gais gael ei wneud.' Hefyd, mae paragraff 1.3.3 yn darparu mai ‘Dim ond pan fo’r gwariant yn ymwneud ag Aelod wrth iddo gyflawni dyletswyddau Aelod o'r Senedd y caiff lwfansau eu talu neu eu had-dalu. Rhaid peidio â gwneud cais am wariant sy’n ymwneud â gweithgareddau plaid wleidyddol.’Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a Chlerc y penderfyniad i wrthod caniatáu cyllid at y diben hwn. Daeth i'r farn bod y fideo yn rhy wleidyddol ei naws ac nad oedd, felly, yn bodloni gofynion y Penderfyniad.

  3. Derbyniodd y Prif Weithredwr a Chlerc apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chaniatáu treuliau teithio ar gyfer dod i gyfarfod i gael cyngor cyfreithiol gan gynghorydd cyfreithiol allanol. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr a Chlerc y penderfyniad ar y sail nad oedd y rheswm dros y cyfarfod yn ymwneud â busnes y Senedd a, thrwy rwymedigaeth, nad oedd y teithio chwaith. Mae Adran 1.3.1 o'r Penderfyniad yn nodi:“Dim ond am wariant y bu’n rhaid ei ysgwyddo er mwyn i ddyletswyddau’r Aelod fel Aelod o'r Senedd gael eu cyflawni y caniateir i gais gael ei wneud”.

  4. Ceisiodd grŵp logi ystafell mewn gwesty yng Nghaerdydd ar gyfer cyfarfod grŵp. Gwrthodwyd apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod yr hawliad


2018/19 Apeliadau

  1. Apeliwyd at y Prif Weithredwr a Chlerc yn erbyn penderfyniad na ellid ad-dalu costau teithio a llety i Staff Cymorth Aelodau o'r Senedd fynd i gynhadledd plaid er mwyn cefnogi Aelodau'r Senedd yn eu gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn eu gwaith datblygu polisi. Cadarnhawyd y penderfyniad gan y Prif Weithredwr a Chlerc ar y sail bod y gwaith a wnaed yn y gynhadledd yn cael ei ystyried yn weithgaredd plaid wleidyddol a'i fod felly'n mynd yn groes i adran 1.3.3 yn y Penderfyniad, sy'n dweud:'Telir neu ad-delir lwfansau dim ond pan mae'r gost yn ymwneud ag Aelod yn cyflawni'i ddyletswyddau fel Aelod o'r Senedd. Ni ddylid gwneud cais am wariant sy'n ymwneud â gweithgaredd gwleidyddol gan blaid.'


2017/18 Apeliadau

  1. ​Ym mis Rhagfyr 2017, apeliodd Aelod yn erbyn penderfyniad a wnaed ynghylch hawliad am logi car. Cymeradwywyd y cais gwreiddiol ond gwrthodwyd hawliad pellach am na cheisiwyd cymeradwyaeth am y cyfnod estynedig, er bod yr hawliad am reswm dilys. Ystyriwyd yr apêl ac ad-dalwyd 50 y cant o'r costau i’r Aelod gan fod cymeradwyaeth ar gyfer llogi’r car wedi'i rhoi yn wreiddiol ac nad oedd y cyfnod amser yr oedd yn ei gwmpasu’n glir.

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Teithiau Rhyngwladol

Cyglogau a Threuliau Aelodau o'r Senedd