Gwybodaeth hanesyddol am hawliadau a wnaed gan Aelodau o’r Senedd
Yn ogystal â manylion yr hawliadau sydd ar gael yn y Gronfa Ddata Lwfansau, mae rhagor o wybodaeth ar gael am gyfanswm yr hawliadau sy'n ymwneud â gwariant staffio a chymorth ychwanegol.
Lwfans Treuliau Staffio (a Thaliadau Goramser Aelodau’r Teulu)
O fis Ebrill 2019 ymlaen, cyhoeddodd Comisiwn y Senedd wariant staffio blynyddol pob Aelod. Nid oedd Aelodau a oedd yn cyflogi dau aelod o staff, neu lai yn cael eu cynnwys. At hynny, o 1 Ebrill 2020, cyhoeddwyd enw, rôl, perthynas a band cyflog yr holl staff a gyflogir sy’n aelodau o deulu Aelod ynghyd â’r goramser wythnosol cyfartalog a delir i aelodau’r teulu yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20.
Pennod 3A Cymorth ychwanegol
Mae’r wybodaeth isod yn gyhoeddiad blynyddol o Hawliadau dienw, agregedig o dan Bennod 3A o’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol.
Mae’r hawliadau am wariant a wnaed o dan Bennod 3A at ddibenion darparu cefnogaeth ychwanegol i Aelodau anabl neu ymgysylltu ag etholwyr anabl (adran 3A.2), Aelodau â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill (adran 3A.3), ac Aelodau ar absenoldeb rhiant (adran 3A.4).
- 2021-22: £7,607.95
- 2022-23: £9,935.67
- 2023-24: £11,224.52
- 2024-25: £12,047.25
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd: