Croeso i'r Senedd

Y Senedd, cartref Senedd Cymru, yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud dros Gymru.

Mae ar agor i bawb a gallwch ymweld yn rhad ac am ddim.

Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, mae digon i'w archwilio - mwynhewch arddangosfeydd am ddim, ymunwch â thaith dywys, gwyliwch fusnes y Senedd yn fyw neu ymlaciwch yn ein caffi. 

Oriau Agor

  • Dydd Llun i ddydd Gwener: 09:00–16:30
  • Dydd Sadwrn a Gwyliau Banc: 10:30–16:30
  • Mynediad olaf: 16:00

Sylwer: Bydd y Senedd a'r Pierhead ar gau o 14:00 dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 tan ddydd Iau 1 Ionawr 2026. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl o ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.

 

Rydym ar hyn o bryd yn gwneud gwaith i ehangu'r Siambr (siambr drafod). Yn ystod y cyfnod hwn:

  • Bydd oriel gyhoeddus y Siambr ar gau dros dro.
  • Bydd llai o gapasiti o ran caniatáu pobl i wylio'r Cyfarfod Llawn
  • Gall llwybrau teithiau newid.
  • Disgwylir rhywfaint o sŵn o ganlyniad i’r gwaith adeiladu.

Pethau i'w wneud

Beth sy'n digwydd