Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.



Dewch i ddadlau : Ffug Etholiad i Bobl Ifanc
Cyhoeddwyd 24/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/03/2021   |   Amser darllen munudau
Dyddiad ac amser:
Dydd Gwener, 26 Chwefror 2021
17.00 GMT
Lleoliad:
Digwyddiad Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn:
Yn addas i bobl ifanc 15-25 oed
Ydych chi'n angerddol dros ddadlau?
Wedi mirenio eich sgiliau yn y dosbarth neu tra'n dysgu o adref? Beth am roi cynnig ar ein ffug etholiad i bobl ifanc ar nos Wener y 26ain o Chwefror?
Dyma'ch cyfle i greu plaid wleidyddol a chymryd rhan mewn dadl wedi'i chadeirio gan Teleri Glyn Jones, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru Wales.
Archebu:
Yn awyddus i ffurfio plaid wleidyddol a chymryd rhan yn y ddadl?
chevron_rightOes gennych chi ddiddordeb i wylio'r digwyddiad a chymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb? Cadwch le nawr
Gwybodaeth Ychwanegol:
Unwaith i chi gofrestru, fe dderbyniwch gadarnhâd dros e-bost gyda gwybodaeth bellach a chyngor ar sut i ffurfio’ch plaid a pharatoi ar gyfer y digwyddiad.
Bydd aelod o’r tîm ar gael i roi arweiniad i chi bob cam o’r ffordd.
Cynhelir y digwyddiad yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael am ddim i chi.