'Y Senedd a Fi' sesiwn grwp ieuenctid

Cyhoeddwyd 29/04/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/04/2025

Addas ar gyfer: Unrhyw grŵp ieuenctid

Hyd: P'un a yw eich sesiwn yn 1 awr neu 2 awr, bydd ein swyddog yn gallu darparu ar gyfer hyn.

Sesiwn ar gael ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Lleoliad: Yn lleoliad eich grŵp ieuenctid - mae gennym swyddogion ar gael ym mhob ardal yng Nghymru. Pan fyddwch yn archebu, bydd eich swyddog agosaf yn cael y sesiwn ac yn ymweld â'ch grŵp.

£ Am ddim

 

Gwybodaeth

Ymunwch â ni mewn sesiwn  i ddysgu am y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru. Dyma gyfle i'r bobl ifanc ddysgu beth yw'r Senedd a'r Senedd Ieuenctid, pwy sy'n eu cynrychioli a sut i leisio eu barn yn y Senedd. Dyma gyfle hefyd i drafod pam mae democratiaeth yn bwysig i bobl ifanc Cymru

 

Archebu

Gallwch archebu eich sesiwn drwy ein ffurflen archebu. Gofynnwch am eich dyddiad dewisol a bydd ein tîm archebu mewn cysylltiad i gwblhau eich archeb. 

 

Archebwch nawr