Cymorthdaliadau teithio

Cyhoeddwyd 07/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/11/2023   |   Amser darllen munudau

Gall ysgolion a cholegau yng Nghymru hawlio cymhorthdal teithio rhannol i dalu am ymweliadau addysgol â’r Senedd, Bae Caerdydd. Dyma fanylion sut y gallwch wneud cais.

Telerau ac Amodau

Bydd ysgolion a cholegau yng Nghymru sydd dros 10 milltir o’r Senedd ym Mae Caerdydd (20 milltir ddwy ffordd) yn gymwys i dderbyn cymhorthdal rhannol i dalu am eu hymweliadau addysgol â Chanolfan Ymwelwyr ac Addysg ySenedd.

  1. Ni fydd ysgolion na cholegau sydd llai na 10 milltir o Fae Caerdydd yn gymwys i wneud cais am arian.
  2. Gall ysgolion a cholegau hawlio un cymhorthdal teithio ym mhob blwyddyn academaidd yn dilyn ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr ac Addysg y Senedd ym Mae Caerdydd.
  3. Ni all ysgolion dderbyn y cymhorthdal teithio os nad ydynt yn derbyn ymweliad addysgol drwy law swyddog addysg y Senedd.
  4. Mae’n rhaid trefnu ymweliadau addysgol o leiaf dair wythnos ymlaen llaw drwy gysylltu â Llinell Archebu’r Senedd ar 0300 200 6565. Dylai ysgolion drefnu eu hymweliad mor fuan ag sy’n bosibl er mwyn osgoi cael eu siomi. Bydd y sesiynau yn cael eu trefnu ar sail yr egwyddor ‘y cyntaf i’r felin…’.. Gallwch hefyd archebu arlein drwy'r ddolen hon:Ymweliadau addysg â’r Senedd/Education visits to the Senedd Tickets, Multiple Dates | Eventbrite
  5. Gall ysgolion hawlio cymhorthdal ar gyfer y daith ddwy ffordd fyrraf i’r Senedd ar gyfer un bws yn ystod un flwyddyn ariannol. Mae’n rhaid i hyd y daith mewn milltiroedd gael ei gyfrifo drwy ddefnyddio rhaglen ‘RAC route planner’. Bydd costau’n cael eu cyfrif ar sail £1 y filltir am gerbyd wedi’i logi.
  6. Nid yw’r cymhorthdal ar gael yn ystod gwyliau h.y. gwyliau ysgol a gwyliau’r Senedd.
  7. Mae’r Senedd yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw ymweliadau sydd wedi’u trefnu, os na ellir cynnig ymweliad addysgol am unrhyw reswm. Bydd y Senedd yn digolledu ysgolion am unrhyw gostau a dalwyd i’r cwmni bysiau/teithio os caiff y trefniadau ar gyfer ymweliad eu canslo.
  8. Pan fydd mwy na un ysgol yn ymweld o fewn un slot ymweld, ond un cymhorthdal ariannol a delir os ydych yn yn teithio ar yr un bws. Gall ysgolion dderbyn taliadau ar wahan, os ydynt yn teithio ar fysiau gwahanol.
  9. Dylai trefnwyr yr ymweliadau sicrhau bod y gymhareb rhwng disgyblion ac athrawon yn cydymffurfio â chanllawiau eu Hawdurdod Lleol ac Asesiad Risg Iechyd a Diogelwch y Senedd. Bydd yr athrawon yn gyfrifol am ddiogelwch ac ymddygiad eu disgyblion drwy’r amser.
  10. Nid yw’r Senedd yn gyfrifol am ddiogelwch y disgyblion wrth iddynt deithio i’r Senedd, nac ar eu taith yn ôl.