Llun © Snobar Avani
Cymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan
Noddir gan Heledd Fychan AS a Darren Millar AS
Dyddiadau: 6 Ebrill - 17 Mai 2024
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, y Pierhead
Mae Cymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan (KAWA) yn sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac yn ymrwymo i gyfoethogi bywydau’r gymuned Cwrdaidd yng Nghymru. Cenhadaeth y sefydliad yw darparu gwasanaethau hanfodol, meithrin dealltwriaeth ddiwylliannol, a chreu cysylltiadau cryf â chymunedau amrywiol ledled Cymru.
“Am Olygfa - What a Scenery - Çî Nemayane yw’r arddangosfa gyntaf o’i math yng Nghymru a Phrydain. Mae’n tynnu ynghyd waith gan ugain o artistiaid Cwrdaidd adnabyddus sy’n hanu o Ganada, America, Ewrop a Chanolbarth Cwrdistan. Mae’r aristiaid hyn, sydd wedi’u hysbrydoli gan y delweddau byw a geir ym marddoniaeth Goran, un o feirdd mwyaf blaenllaw y Cwrdiaid, yn creu clytwaith creadigol sy’n atseinio ar draws cyfandiroedd.”
“Yn debyg i feirdd o Gymru a gweddill Ewrop sydd wedi llywio ieithoedd eu cenhedloedd, mae Goran wedi cael dylanwad dwfn ar y diwylliant Cwrdaidd.”
“Drwy lens barddoniaeth Goran, mae’r artistiaid hyn yn cyflwyno ysblander o ddehongliadau gweledol, gan greu deialog rhwng traddodiadau barddonol Cwrdistan a’r dylanwadau llenyddol ehangach sydd wedi ffurfio diwylliannau ym mhedwar ban byd.”
“Ymunwch â ni yn y dathliad arbennig hwn, wrth i ni nodi moment hollbwysig yn y cyfnewid diwylliannol rhwng Cymru, Prydain a’r alltudiaeth Cwrdaidd byd eang.”
- Alan Deelan, Cyfarwyddwr y Prosiect