City Stories: Ffotograffau o Gaerdydd 1969-1977

Cyhoeddwyd 11/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2023   |   Amser darllen munud

Pete Davis

Noddir gan Elin Jones AS

Dyddiadau: 1 Hydref – 8 Rhagfyr

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Y Sblot, Caerdydd, 1969

Tôn seleniwm, gelatin / printiau arian

Llun gan Pete Davis

 

Cafodd ffotograffau Pete Davis o’r Sblot eu tynnu ar adeg pan oedd y gwaith dur yn cau ac roedd yr ardal yn cael ei hailddatblygu. Fel un o'r prif gyflogwyr yng Nghaerdydd, dechreuodd cau'r gwaith dur gyfnod pontio pan fyddai rhan o'r ddinas yn diflannu am byth.

Wedi’i fagu yn y Sblot, dychwelodd Pete i'r ardal droeon yn ystod y cyfnod hwn i gipio’r amgylchedd:

"Yn ymwybodol o'r newidiadau mawr iawn a'r dygyfor i breswylwyr tymor hir, byddwn yn cofnodi’r bywyd stryd a dirywiad graddol y dirwedd drefol a oedd yn gartref i mi tan ganol y 1960au."

Y tu hwnt i’r Sblot, roedd y ddinas ehangach yn newid hefyd. Yn dilyn y cyfnod wedi'r rhyfel, roedd Caerdydd yn datblygu seilwaith newydd a drawsnewidiodd y ffordd roedd pobl yn llywio ac yn defnyddio'r ddinas.

Dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae ffotograffau Pete yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd newydd fyfyrio ar gyfnod a lle a newidiodd yn weledol ac yn ddiwylliannol.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gellir gweld ffotograffiaeth ddogfennol Dr Pete Davis mewn llawer o gasgliadau celf cenedlaethol a rhyngwladol. Yn eu plith y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Museo Genna Maria, Sardinia, ac Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. Am ddeunaw mlynedd, bu Pete yn uwch-ddarlithydd Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd ac yn arweinydd y cwrs am naw mlynedd. Mae Pete wedi cynrychioli Cymru ddwywaith yn yr Ŵyl Ryng-Geltaidd, Ffrainc ac mae'n gyn-dderbynnydd Gwobr Wakelin i artistiaid o Gymru.

Mae City Stories wedi cael cymorth gan Found Gallery, Aberhonddu a Silverprint ltd.

 

Y Sblot, Caerdydd, 1969

Tôn seleniwm, gelatin / printiau arian

Llun gan Pete Davis

 

Sblot, Caerdydd, 1971

Tôn seleniwm, gelatin / printiau arian

Llun gan Pete Davis

 

Caerdydd, 1975

Tôn seleniwm, gelatin / printiau arian

Llun gan Pete Davis