Sean Harris
Noddir gan Llyr Gruffydd AS, Mark Isherwood AS a Carolyn Thomas AS
Dyddiadau: 19 Medi - 19 Rhagfyr 2023
Lleoliad: Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol y Pierhead
Mae’r artist a’r animeiddiwr Sean Harris yn rhoi sylw haeddiannol i ddau aderyn eiconig, sef y Gylfinir, a all ddiflannu o Gymru mewn llai na degawd, a’r Carfil Mawr, y mae ei dranc trasig, wedi’i brofi gan wyddoniaeth arloesol yng Nghymru, yn codi cwestiynau pwysig am ein gallu ni i ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Mae hanes yr adar yn nodi canlyniadau pellgyrhaeddol ein gweithredoedd fel defnyddwyr yr oes fodern, a pherthynas anghynaladwy â byd natur.
Ers dau ddegawd mae Sean Harris wedi defnyddio animeiddio fel cyfrwng i ddarlunio’r perthnasoedd amrywiol rhwng pobl a thirweddau yng Nghymru a thu hwnt, ac wedi’u mynegi yn weledol. Gan fabwysiadu creadur soniarus i’w arwain yn ddieithriad, mae ei ffordd gynhwysol o weithio yn creu cysylltiadau a rhwydweithiau newydd. Mae’r gweithiau celf a ddaeth o ganlyniad i’r mecanwaith adeiladu pontydd creadigol hwn wedi bod yn hyrwyddo cymunedau lleol ar y llwyfan cenedlaethol a thros Gymru, ac yn rhyngwladol.
Am filoedd o flynyddoedd mae celfyddyd ac anifail wedi cyfuno i gyflwyno dull hanfodol o gwestiynu ac o fynegi ein perthynas â’r tir, ac yn y pen draw i ddweud ‘dyma ni a dyma ein lle ni’. Gan gofleidio’r ethos hwn o fewn menagerie teithiol animeiddiedig, mae Harris yn dod â’r adar yn fyw er mwyn dal drych i’r gymdeithas, a thrwy hynny mae’n helpu i lunio dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol.
Mae Cymanfa'r Adar, a ddyfeisiwyd gan Sean Harris, yn bartneriaeth rhwng Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chanolfan Grefft Rhuthun. Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Datblygu Cynaliadwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Benthyciadau gwrthrychau amgueddfa wedi’u hwyluso gan Senedd Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.
Rhaglen o dafluniadau:
Yn Oriel y Dyfodol, gallwch weld ‘llusern’ fawr wedi’i goleuo gan gyfres o dafluniadau. Mae’r ffilmiau’n cynnwys delweddau wedi’u hanimeiddio a delweddau tirwedd ynghyd â samplau o ymchwil wyddonol a chasgliadau amgueddfeydd.
Mae pob un wedi'i gwneud mewn cydweithrediad â chymuned a gynullwyd drwy brosiect sy’n canolbwyntio ar leoliad penodol.
Gylfinir – Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. |
19 Medi - 19 Rhagfyr |
Clymau S’yn Cynnal – Sir Faesyfed |
19 Medi - 7 Hydref |
Echo-Maker – Gwastadeddau Gwlad yr Haf. |
9 Hydref - 21 Hydref |
The Cave Hunters and the Truth Machine |
23 Hydref - 4 Tachwedd |
Lynx Cave Dreaming – Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. |
7 Tachwedd - 18 Tachwedd |
1844 – Môr Iwerydd |
21 Tachwedd - 19 Rhagfyr |
Lluniau
©Sean Harris ©Anna Arca