Exhibition in the Senedd Oriel

Exhibition in the Senedd Oriel

Nifer o Leisiau, Un Genedl

Cyhoeddwyd 01/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Nifer o Leisiau, Un Genedl yn arddangosfa deithiol, wedi’i churadu gan Ffotogallery a Senedd Cymru.

Comisiynwyd yr arddangosfa gan Senedd Cymru ac mae'n rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i nodi’r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau sy’n defnyddio lensys i archwilio gobeithion a dyheadau pobl Cymru at y dyfodol. Comisiynwyd chwe artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac mae'r arddangosfa'n cynnwys ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau sy’n defnyddio lens, delweddu digidol, gosodiadau a chyfryngau cymysg. Nod yr arddangosfa yw cyfleu cyfoeth ac amrywiaeth ddaearyddol, ddiwylliannol a chymdeithasol Cymru a, lle bynnag y bo modd, annog y cyhoedd i gyfranogi.

Cychwynnodd arddangosfa ‘Nifer o Leisiau, Un Genedl’ ei thaith yn y Senedd, sef canolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru ym mis Medi 2019, cyn iddi ymweld â Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2019 a Redhouse Merthyr Tydful yn 2020.

Yn anffodus oherwydd y pandemig coronafeirws, ni fu modd i’r arddangosfa deithio i Galeri Caernarfon fel y bwriadwyd, ond gellir gweld detholiad o'r delweddau ar wefan ffotogallery.

Yn ystod Gŵyl GWLAD cafodd Ffotogallery sesiwn holi ac ateb gyda rhai o’r artistiaid a oedd yn rhan o’n harddangosfa Nifer o Leisiau, Un Genedl:

 

Yr Artistiaid

Luce + Harry

Luce and Harry

Yn ystod Gwrthryfel Hwngari 1956, daeth 20,000 o ymfudwyr i'r DU, gan ffoi rhag amodau gelyniaethus ar ôl i'r chwyldro gael ei wasgu gan luoedd Sofietaidd. Daeth llawer o bobl i Gymru, a daeth 96 o bobl i Bontypridd ac ymgartrefu yno, a thaid Luce yn eu plith. Bron 65 mlynedd yn ddiweddarach, mae ton newydd o ffoaduriaid Eritre yn ffoi rhag trais cyfundrefn ormesol, ac amgylchiadau sydd eto y tu allan i'w rheolaeth. Croesawyd llawer o bobl gan Gymru unwaith eto. Drwy'r broses o dynnu lluniau, casglu lluniau archif, a recordio cyfweliadau, mae'r artistiaid yn cyflwyno naratif sy'n adlewyrchu profiadau mudwyr Hwngari yng Nghymru; sef, yn adrodd stori am gynhesrwydd, am gymhathu a gwaith caled. Ochr yn ochr â hyn maent wedi tynnu lluniau o'r cymunedau Eritreaidd sydd newydd eu ffurfio, ac sydd bellach â'r un gobeithion. Mae'r prosiect yn hyrwyddo natur groesawgar Cymru, yn dathlu amrywiaeth ei phobl, ac yn rhannu gobeithion a dyheadau teuluoedd Cymru ar gyfer y dyfodol.

Portffolio Luce + Harry

Zillah Bowes

Ar gyfer y prosiect 'Nifer o Leisiau, Un Genedl', mae Bowes wedi cynhyrchu cyfres o ddelweddau o gymuned ffermio mynydd yn Sir Faesyfed, a hynny yng ngolau'r lleuad. Mae ffermwyr tenant Ystâd Elan yng nghymoedd Elan a Claerwen yn cadw defaid ar y mynydd agored. Maent yn eu casglu gyda'u cymdogion, yn aml wrth farchogaeth, gan ffurfio cymuned agos a throsglwyddo ffordd draddodiadol o fyw.
 
Mae Brexit, ynghyd â phryderon economaidd ac amgylcheddol gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, yn creu ansicrwydd i ffermwyr y dyfodol yn ucheldiroedd Cymru. Mae aelodau'r gymuned hon sydd newydd ddechrau eu bywydau fel ffermwyr yn arddel dilyniant. Yn arwyddocaol, mae sawl merch ifanc yn y genhedlaeth newydd. Gan ddefnyddio golau'r lleuad fel ei hunig ffynhonnell o olau, mae Bowes yn archwilio'r sefyllfa drothwyol hon, gan osod pobl ar y tir lle maent yn geidwaid y presennol ac yn geidwaid hanesyddol. 
Yn lleol, mae pobl yn cael eu galw wrth eu henwau cyntaf ac enw eu fferm.
[Llun: Owen 'Treheslog']

Portffolio Zillah Bowes

Ed Brydon

Er bod llawer wedi clywed am y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, yr Ariannin, mae alltudiaeth rhai Cymry i ogledd America yn llai adnabyddus. Fel rhywun a ymfudodd o Ogledd Cymru i Efrog Newydd, bu Brydon yn chwilio'n gyson am gysylltiad â'i gartref. Un flwyddyn, darganfu Ŵyl Remsen Barn yng nghyffiniau Efrog Newydd, sef ffair bentref a dathliad o dreftadaeth Cymru yn yr ardal. Roedd stondinau ac adeiladau'r pentref wedi'u haddurno â baneri Cymru a'r ddraig goch ym mhob man. Ar ôl hynny, darganfu beth oedd union raddfa'r mewnfudo i America o Gymru, a'r effaith a gafodd hynny.
 
Arweiniodd y darganfyddiad hwn at weithio ar brosiect y mae'n ei alw'n "The Singing Hills", a enwyd yn sgîl traddodiad corawl y Cymry, a ddethlir yn eglwysi a chanolfannau cymunedol cyffiniau Efrog Newydd i'r un graddau ag y gwneir ledled Cymru. Drwy bortreadau, tirweddau, a delweddau o fywyd, mae ei brosiect yn portreadu cymunedau Cymru yn America a'u cysylltiadau â Gogledd Cymru. Ei nod yw llunio corff o waith sy'n ffurfio cysylltiad gweledol rhwng y bobl, y tir, a bywyd yng nghyffiniau Efrog Newydd a Gogledd Cymru, eu tebygrwydd a'u gwahaniaethau, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Portffolio Ed Brydon

Huw Alden Davies

Yn edrych ar diriogaethau 'newydd', ac yn astudio'r cysyniad o ficro-genhedlaeth a ddisgrifir fel Xennials (dadansoddiad gwreiddiol drwy waith ffotograffig), mae 'Breuddwydio mewn Lliw' yn archwilio cenhedlaeth ddieithr sy'n pontio'r bwlch rhwng dau gyfnod a ddisgrifir fel cenhedlaeth X a Millennials, ac ar yr un pryd yn ehangu persbectif diwylliant Cymru drwy ddefnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau lensys.
 
Mae'r prosiect hwn wedi'i leoli mewn pentref bach glofaol a'r cyffiniau yng Nghwm Gwendraeth ar ddechrau cyfnod newydd, ac mae'n gydweithrediad amlgyfrwng, sy'n darparu persbectif modern a newydd o 'Gymreictod', a golwg prin ar un o'n cymunedau yng Nghymru sydd mor gyfoethog ei diwylliant. Wrth ddathlu rhyfeddod plentyndod, cyfeillgarwch a phob peth Cymraeg, mae Breuddwydio mewn Lliw yn adrodd hanes cenhedlaeth yr 80au a welodd y gorau o ddau fyd, yr hen a'r newydd, ac mae'n ehangu hunaniaeth weledol Cymru y tu hwnt i'w stereoteipiau.

Portffolio Huw Alden Davies

James Hudson

Mae James Hudson yn adrodd hanes taith feicio oddi ar y ffordd o Senedd hanesyddol Machynlleth i'r Senedd heddiw yng Nghaerdydd. Crëwyd syniadau a deunydd ar gyfer y stori wrth feicio ar hyd y llwybr, wrth i'r artist sylwi ar yr amgylchedd ffisegol a chael cyfarfyddiadau ar hap â phobl.
 
Mae'r bererindod fodern hon yn ein hatgoffa bod yna Senedd yn y gorffennol yng Nghymru, yn ogystal â bod yn ddathliad o hanes a chynnydd democrataidd Cymru. Mae beicio yn weithgaredd cadarnhaol, cynhwysol ac yn rhan allweddol o'r Ddeddf Teithio Llesol a basiwyd gan y Senedd yn 2013. Mae hanes diddorol i feicio mynydd yng Nghymru hefyd, ac o ganlyniad i ddatblygiadau ym maes beicio o'r fath ledled y wlad mae ei ddyfodol mewn dwylo diogel, ac eisoes mae rhannau o Gymru'n cael eu hystyried fel y llefydd gorau ar gyfer beicio mynydd yn y DU. Fel gwaith ffuglen celf graffig, yn hytrach na gwaith dogfennu symlach, nod y prosiect yw amlygu gweithgaredd, hanes a gwerth beicio mynydd a'r Senedd i gynulleidfaoedd newydd.

Portffolio James Hudson

Jon Pountney

Mae llawer o waith Pountney yn ymwneud â gorffennol diwydiannol a chymdeithasol Cymru, ac mae gan yr artist ddiddordeb mewn edrych ar yr hyn a ddefnyddir i ddatblygu ymdeimlad o genedligrwydd wrth i Gymru ymbellhau oddi wrth ei delwedd draddodiadol o ddiwydiant trwm a chloddio glo. Mae Jon Pountney wedi dilyn datblygiad Senedd Ieuenctid Cymru gyda chryn ddiddordeb, ac mae bellach yn creu portreadau o aelodau'r Senedd Ieuenctid, yn tynnu eu lluniau mewn cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ac yn dangos y cefndiroedd a'r naratifau amrywiol sydd wedi'u harwain at ddod yn aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Portffolio Jon Pountney

 

Y Senedd, Medi 2019

 

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Tachwedd 2019

 

Redhouse Merthyr Tudful, Chwefror 2020