This is Older

Cyhoeddwyd 23/04/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/10/2023   |   Amser darllen munud

Age Cymru mewn cydweithrediad â Jon Pountney a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Noddwyd gan Mick Antoniw AS

Dyddiadau: 23 Ebrill – 25 Mai 2022

Lleoliad: Oriel y Senedd

This is Older

Delwedd: Jon Pountney

O bync-rociwr i ffermwr defaid mynydd, ac o nofwyr gwyllt i’r rhai sy’n cadw rhandiroedd, mae Age Cymru yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa ffotograffiaeth sy'n ysgogi'r meddwl, gyda’r nod o chwalu stereoteipiau negyddol o bobl hŷn.

"Yn aml, y cymunedau o'm cwmpas a fydd yn fy ysbrydoli — mae fy ngwaith wedi'i wreiddio mewn pobl, lle a hanes" meddai Jon. "Rwy'n gobeithio y bydd y straeon rhyfeddol hyn, sy’n cael eu cyfleu ar ffurf delweddau, yn fodd inni newid y naratif am bobl hŷn a thrwy hynny ddangos dyfnder ac ehangder y profiad a gawn ni wrth heneiddio."

Cynhaliwyd y prosiect This is Older drwy gydol 2021 ac fe'i hariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r delweddau bellach yn rhan o Gasgliad Cenedlaethol Ffotograffau Cymraeg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.