Trwy Ein Llygaid

Cyhoeddwyd 06/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan

Noddir gan Jane Hutt AS

Dyddiadau 16 Tachwedd 2022 – 4 Chwefror 2023

Lleoliad:  Oriel y Senedd

Llun: Stacey yn Ynys y Barri. Natasha Hirst, Through Our Eyes.

 

Mae Trwy Ein Llygaid yn rhannu straeon pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, mewn ffotograffau a fideos. Mae ein harddangosfa yn herio canfyddiadau a stereoteipiau, drwy amlygu rolau a gweithgareddau pobl ag anableddau dysgu yn ein cymunedau – rolau a gweithgareddau o bwys mawr.

Mae delweddau'n dylanwadu ar y ffordd ry’n ni'n meddwl am bobl. Gall hyn effeithio ar y cyfleoedd sydd gan bobl mewn bywyd. Aeth aelodau Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ati i wella sut y cânt eu cynrychioli yn y gymdeithas drwy greu lluniau a fideos cadarnhaol a grymusol. Ry’n ni’n dathlu ein llwyddiannau ym meysydd cyflogaeth, gwirfoddoli, chwaraeon ac addysg, yn ogystal â meysydd eraill o fywyd.

Cewch ddysgu rhagor am y rhwystrau i fyw'n annibynnol a'r gwaith y mae ein hunan-eiriolwyr yn ei wneud er mwyn creu byd mwy cynhwysol a hygyrch i bawb. Mae’n cynnig y cyfle i ddysgu am yr hyn sy’n bwysig i’n cymuned a phwysigrwydd trin pawb ag urddas a pharch.

Mae Trwy Ein Llygaid yn cynrychioli pobl ag anableddau dysgu yn eu geiriau eu hunain, a sut y maen nhw’n gweld eu hunain.

Ymunwch â ni i greu darlun amgenach.

 

Llun: Levi a'i merch yn mynd am dro ym Mhorth Tywyn. Natasha Hirst, Through Our Eyes.

 

Llun: Y chwaraewr pêl-fasged David allan yn cerdded yn Aberhonddu. Natasha Hirst, Through Our Eyes.

 

Llun: Anna yn ymarfer saethyddiaeth gyda'i thîm ym Mhrifysgol Derby. Natasha Hirst, Through Our Eyes.