Dyddiad: 26 Gorffennaf – 5 Medi 2021
Lleoliad: Y Senedd
Mae'r Senedd yn falch o groesawu cyflwyniad cloi Undo Things Done, sef arddangosfa Sean Edwards a gomisiynwyd ar gyfer Cymru yn Fenis / Wales in Venice 2019.
Comisiynwyd Undo Things Done gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar achlysur yr 58fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia gyda'r partner arweiniol Tŷ Pawb, Wrecsam a Marie-Anne McQuay, y curadur gwadd.
Mae Undo Things Done yn dechrau gyda phrofiad Edwards o dyfu i fyny ar ystâd gyngor yng Nghaerdydd yn yr 1980au; mae’n dal yr hyn y mae'n ei alw'n amod o 'beidio â disgwyl llawer' ac yn trosi hynny i iaith weledol gyffredin; un sy'n dwyn i gof ffordd o fyw sy'n gyfarwydd i nifer fawr o bobl. Fel rhan o'r cyflwyniad yn y Senedd, sy'n cynnwys cwiltiau Cymreig, printiau, cerfluniau a ffilm, mae'r artist wedi ail-wampio Refrain, 2019.
Drama radio yw Refrain, a gyd-gynhyrchwyd gan National Theatre Wales ac a ysgrifennwyd ar gyfer Lily Edwards, mam yr artist, ac a berfformiwyd ganddi. Perfformiwyd y ddrama radio hon, a oedd wrth wraidd arddangosfa Fenis, yn fyw bob dydd yn ystod y Biennale, gan ei ffrydio o'i fflat yng Nghaerdydd i leoliad Cymru yn Fenis 2019. Mae Refrain yn plethu cofiant Lily Edwards, yn tyfu i fyny mewn Cartref Plant Catholig yng Ngogledd Iwerddon â'i bywyd diweddarach yng Nghymru, gyda deunyddiau a ddarganfuwyd ac atgofion Sean Edwards o'i blentyndod. Mae Edwards wedi addasu'r fersiwn a gomisiynwyd yn arbennig o Refrain, a gynhyrchwyd gan John Norton a Martin Williams, ac a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 ar 17 Rhagfyr 2019.
Biennale Arte, Biennale Fenis, yw'r arddangosfa celfyddydau gweledol fwyaf yn y byd. Mae Cymru wedi bod â phresenoldeb yn y Biennale ers 2003, gan ddathlu'r gorau o dalent o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol naw gwaith.
Cafodd cyflwyniad Edwards Undo Things Done yn Fenis 25,000 o ymwelwyr yn ystod rhediad La Biennale di Venezia. Fodd bynnag, ynghyd â nifer o gyflwyniadau swyddogol eraill, daeth i ben yn gynnar oherwydd llifogydd digynsail ledled y ddinas. Effeithiodd y llifogydd ar waith dur a phren sylweddol yn in parallel with the past i-iv, 2019 sydd wedi’i dynnu o’r daith gyda gweithiau newydd wedi’u hychwanegu yn ei le gan yr artist wrth i’r daith fynd yn ei blaen i Dŷ Pawb yn Wrecsam a’r Bluecoat yn Lerpwl. Fel artist sydd bob amser yn addasu pob arddangosfa i'w gyd-destun newydd mae'r newidiadau hyn wedi cael eu hamsugno i broses waith Edwards ei hun.
Sean Edwards, Undo Things Done (Cymru yn Fenis), 2019
Llun drwy garedigrwydd yr artist ac Oriel Tanya Leighton, Berlin. Comisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru