Neuadd y Senedd
29 Gorffennaf – 7 Medi
Mae Theatr Byd Bach yn creu cerflun anferthol o ffenics yn y Senedd a dyma eich gwahoddiad i gymryd rhan.
Bydd y cerflun trawiadol o ffenics, wedi’i wneud o ddeunyddiau cynaliadwy wedi’u hadfer a’u hailbwrpasu, yn sefyll yn ffenestri’r Senedd, yn gefndir i gerddoriaeth fyw a gaiff ei pherfformio ar risiau’r Senedd yng Ngharnifal Trebiwt eleni.
Ymunwch â ni yn y Senedd drwy gydol gwyliau’r haf i wneud eich pluen eich hun i’w hychwanegu at y cerflun unigryw hwn. Os ydych chi'n ymuno â Charnifal Trebiwt 2023, gallwch chi wneud pluen arall i fynd gyda chi ar yr orymdaith.
Theatr Byd Bach: Gweithdy Gwneud Plu Ffenics
Neuadd y Senedd
27 Awst, 14:00 - 16:00
Bydd Theatr Byd Bach yn cynnal gweithdy gwneud plu arbennig iawn ddydd Sul 27 Awst, rhwng 14:00 a 16:00.
Ymunwch â'r artistiaid i greu plu bendigedig ar gyfer y ffenics, a chwblhau’r cerflun ar ddiwrnod agoriadol y carnifal.
Gweithdy galw heibio yw hwn, felly nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.
Addas i blant 6 oed a hŷn sy’n gorfod bod yng nghwmni oedolyn drwy'r amser. Mae'r gweithgaredd hwn yn un gwych ar gyfer teuluoedd a grwpiau bach sy'n hoffi gweithio gyda'i gilydd.