Blas o Wydnwch

Cyhoeddwyd 01/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2026

Arddangosfa wedi'i churadu gan Synnwyr Bwyd Cymru

Noddir gan Peter Fox AS

Dyddiadau: 24 Hydref 2026 i 21 Ionawr 2027

Lleoliad: Oriel y Senedd

Pwmpen wen fawr yn cael ei dal mewn dwylo.

Mae llawer o hud y bwyd sy'n ein maethu ni yn guddiedig - yn aml wedi'i orchuddio neu ei anwybyddu. Ac eto y tu ôl i'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta mae'r bobl, y cymunedau a'r tirweddau sy'n creu ac yn llunio straeon bwyd Cymru. 

Ledled Cymru, mae chwyldro tawel yn digwydd ac mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn arwain ac yn dogfennu’r trawsnewidiad hwn.

Mae ffermwyr, tyfwyr, cogyddion, siopwyr a grwpiau cymunedol yn gweithio i gynhyrchu a rhannu bwyd da sy'n gwneud mwy na dim ond ein bwydo ni. Dyma fwyd blasus, sy'n cael ei gynhyrchu gyda balchder – bwyd sydd wedi’i wreiddio yn ein tir, ein hiaith a’n diwylliant, sy’n rhoi maeth a phleser i ni.

Mae pobl ar draws Cymru’n dod at ei gilydd i lunio gwell system fwyd.  Maent yn gweithio gyda natur, yn diogelu’n treftadaeth fwyd ac yn adeiladu gwydnwch ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae'r arddangosfa hon yn helpu i adrodd hanes y mudiad bwyd da sy'n tyfu o'n cwmpas ym mhob rhan o Gymru – o Fôn i Fynwy.

Mae'n darlunio gwaith partneriaethau bwyd lleol; yn dangos effaith dulliau arloesol fel Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion ac yn tynnu sylw at y ffyrdd cydweithredol ac hyderus yr ydym yn helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru.

Mae Blas o Wydnwch wedi'i guradu gan Synnwyr Bwyd Cymru, sefydliad elusennol sy'n anelu at ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.

Bocs o lysiau ffres gan gynnwys cêl, cennin a phwmpen. Dau ddafad yn sefyll mewn cae glas