Y Ddreser Gymreig

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/02/2021   |   Amser darllen munud

Mae darnau o waith celf unigryw gan Angharad Pearce Jones, y cerflunydd a’r gof enwog, wedi’u gosod yn eu cartref newydd yn y Senedd, er mwyn i’r rhai sy’n ymweld â chartref Senedd Cymru eu hedmygu a’u defnyddio. 

Mae’r Ddreser Gymreig yn cael ei arddangos yn barhaol yn y Senedd i roi cyfle i bobl ddysgu am y Senedd a’r Aelodau sy’n eu cynrychioli a theimlo rhyw gysylltiad â nhw.

Cafodd y cerflun ei greu yng ngweithdy’r cerflunydd ger Brynaman drwy ddefnyddio dur o waith TATA ym Mhort Talbot, gan gadw at ei hymrwymiad i ddefnyddio defnyddiau a chrefftwaith Cymreig yn ei gwaith.

Gorsaf gyfranogi aml bwrpas yw’r ddreser. Mae’n bosibl gosod gwrthrychau a gwaith celf ar y silffoedd, neu eu crogi ar y bachau, a chaiff pobl eu hannog i ysgrifennu sylwadau a syniadau a’u glynu ar y dresel a’r fframwaith sydd o’i chwmpas.  

Sylwadau’r Artist

“Rwyf am i’r ddreser gael ei defnyddio’n union fel y byddwn yn defnyddio’n dreseri yn ein cartrefi yng Nghymru, i ddangos y pethau sy’n bwysig i ni,” meddai Angharad wrth esbonio’r ysbrydoliaeth i greu’r ddreser fel lle i bobl rannu syniadau.  

“Rwyf am i bobl ei defnyddio i gynnal sgwrs drwy osod negeseuon a gwaith celf arni, ac iddi gael ei gorchuddio â negeseuon a nodiadau a throi’n ddarn o gelf ynddi’i hun. Bydd yn edrych yn wahanol o’r naill wythnos i’r llall, wrth i destun y sgwrs newid ac, ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd Cennin Pedr yn drwch drosti”