Arddangosfa gan Ganolfan Gymunedol Armenia (C)
Noddir gan Jenny Rathbone AS
Dyddiadau: 31 Ionawr - 11 Mawrth 2026
Lleoliad: Oriel y Senedd
Er y pellter mawr rhwng Armenia a Chymru, maen nhw'n rhyfeddol o debyg o ran maint, ysbryd a thirwedd. Mae gan y ddwy genedl boblogaethau o bron i dair miliwn, ac maen nhw’n cynnal hunaniaethau diwylliannol cryf sydd wedi'u gwreiddio yn hanes yr henfyd.
Mae cysylltiadau annisgwyl rhwng yr Armeneg, un o ieithoedd ysgrifenedig hynaf y byd, a’r Gymraeg, sy’n iaith Geltaidd. Mae Armeneg a Chymraeg ill dwy yn cynnal gwreiddiau Indo-Ewropeaidd hynafol. Mae’r cyffelybiaethau ieithyddol hyn yn dangos sut mae cysylltiadau rhwng dau ddiwylliant pell wedi parhau ar ffurf patrymau hynafol cyffredin.
Y tu hwnt i iaith, mae Armenia a Chymru yn rhannu nodweddion diwylliannol a hanesyddol sy'n cryfhau eu cysylltiad. Mae gan y ddwy wlad draddodiad hir o adrodd straeon, gyda barddoniaeth, chwedlau epig a chaneuon yn diogelu cof y genedl. Mae canu corawl yn chwarae rhan ganolog yn y diwylliannau dan sylw, gan adlewyrchu ysbryd cymunedol a fynegir drwy harmonïau a lleisiau.
Mae gan eu mytholegau debygrwydd trawiadol hefyd: Mae vishap hynafol Armenia a draig goch Cymru yn symboleiddio amddiffyniad, nerth a grym byd natur.
Yn ddaearyddol, mynyddoedd, dyffrynnoedd a ffurfweddau naturiol dramatig sy’n diffinio’r naill wlad a’r llall, a’r nodweddion hynny sydd wedi moldio eu traddodiadau a'u credoau ers canrifoedd. Mae hanes y ddwy wlad yn stori o wydnwch, ysbrydolrwydd dwys, a pharch mawr at barhad treftadaeth.