Cymanfa’r Adar: Gylfinir & Carfil Mawr

Cyhoeddwyd 22/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2023   |   Amser darllen munudau

Sean Harris

Noddir gan Llyr Gruffydd AS, Mark Isherwood AS a Carolyn Thomas AS

Dyddiadau: 19 Medi - 19 Rhagfyr 2023

Lleoliad: Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol y Pierhead

 

Mae’r artist a’r animeiddiwr Sean Harris yn rhoi sylw haeddiannol i ddau aderyn eiconig, sef y Gylfinir, a all ddiflannu o Gymru mewn llai na degawd, a’r Carfil Mawr, y mae ei dranc trasig, wedi’i brofi gan wyddoniaeth arloesol yng Nghymru, yn codi cwestiynau pwysig am ein gallu ni i ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Mae hanes yr adar yn nodi canlyniadau pellgyrhaeddol ein gweithredoedd fel defnyddwyr yr oes fodern, a pherthynas anghynaladwy â byd natur.

Ers dau ddegawd mae Sean Harris wedi defnyddio animeiddio fel cyfrwng i ddarlunio’r perthnasoedd amrywiol rhwng pobl a thirweddau yng Nghymru a thu hwnt, ac wedi’u mynegi yn weledol. Gan fabwysiadu creadur soniarus i’w arwain yn ddieithriad, mae ei ffordd gynhwysol o weithio yn creu cysylltiadau a rhwydweithiau newydd. Mae’r gweithiau celf a ddaeth o ganlyniad i’r mecanwaith adeiladu pontydd creadigol hwn wedi bod yn hyrwyddo cymunedau lleol ar y llwyfan cenedlaethol a thros Gymru, ac yn rhyngwladol.

Am filoedd o flynyddoedd mae celfyddyd ac anifail wedi cyfuno i gyflwyno dull hanfodol o gwestiynu ac o fynegi ein perthynas â’r tir, ac yn y pen draw i ddweud ‘dyma ni a dyma ein lle ni’. Gan gofleidio’r ethos hwn o fewn menagerie teithiol animeiddiedig, mae Harris yn dod â’r adar yn fyw er mwyn dal drych i’r gymdeithas, a thrwy hynny mae’n helpu i lunio dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol.

Mae Cymanfa'r Adar, a ddyfeisiwyd gan Sean Harris, yn bartneriaeth rhwng Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chanolfan Grefft Rhuthun. Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Datblygu Cynaliadwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Benthyciadau gwrthrychau amgueddfa wedi’u hwyluso gan Senedd Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

 

Rhaglen o dafluniadau:

Yn Oriel y Dyfodol, gallwch weld ‘llusern’ fawr wedi’i goleuo gan gyfres o dafluniadau. Mae’r ffilmiau’n cynnwys delweddau wedi’u hanimeiddio a delweddau tirwedd ynghyd â samplau o ymchwil wyddonol a chasgliadau amgueddfeydd. 

Mae pob un wedi'i gwneud mewn cydweithrediad â chymuned a gynullwyd drwy brosiect sy’n canolbwyntio ar leoliad penodol. 

Gylfinir Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

19 Medi - 19 Rhagfyr

Clymau S’yn Cynnal Sir Faesyfed

19 Medi - 7 Hydref  

Echo-Maker Gwastadeddau Gwlad yr Haf.

9 Hydref - 21 Hydref

The Cave Hunters and the Truth Machine

23 Hydref - 4 Tachwedd

Lynx Cave Dreaming Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

7 Tachwedd - 18 Tachwedd

1844 Môr Iwerydd

21 Tachwedd - 19 Rhagfyr

 

 

Lluniau

©Sean Harris ©Anna Arca