Mannau Arddangos y Pierhead

Cyhoeddwyd 18/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Oriel y Dyfodol

Bydd prosiectau cymunedol o bob rhan o Gymru yn cael eu harddangos yn Oriel y Dyfodol yn y Pierhead. Mae'r arddangosfeydd hyn yn ymdrin â dyheadau ein cymunedau a’r problemau sy’n eu hwynebu, neu’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Gall artistiaid a sefydliadau allanol wneud cais i gynnal arddangosfa yn Oriel y Dyfodol, y Pierhead os yw eu prosiect yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:

  • Mae’n arddangos rhagoriaeth Cymru drwy brosiect cymunedol
  • Mae’n archwilio uchelgeisiau a materion cyfredol sy'n wynebu ein cymunedau
  • Mae’n rhannu gwybodaeth am ein treftadaeth i gefnogi penderfyniadau heddiw
  • Mae’n adlewyrchu dadleuon y Senedd o safbwynt cymunedol
  • Mae’n atgyfnerthu hunaniaeth y Pierhead fel atyniad i ymwelwyr

 

Mannau arddangos sydd ar gael

Dau fwrdd arddangos ar olwynion yn mesur 300cm o led x 200cm o uchder (gellir defnyddio'r ddwy ochr)

Wal haenog yng nghefn yr oriel sy'n 420cm o led x 275cm o uchder

Wal MDF ar ochr chwith yr oriel yn mesur 840cm o led x 275cm o uchder

Dau gwpwrdd gwydr sy’n mesur:

  • 90cm o uchder x 100cm o led x 50cm o ddyfnder
  • 180cm o uchder x 50cm o led x 50cm o ddyfnder

(efallai y bydd cypyrddau arddangos ychwanegol ar gael ar gais)

55" monitor ar stondin olwynog (efallai y bydd monitorau ychwanegol ar gael ar gais)

Celf

Gellir chwarae darnau sain/gweledol ar y monitorau sydd ar gael.

Gellir arddangos gwaith celf 3D fel darn annibynnol y tu ôl i rwystrau isel neu mewn cypyrddau gwydr (yn dibynnu ar faint y darn).

Gellir arddangos gwaith celf 2D ar ein byrddau arddangos.

Gosod a hongian

Mae'r byrddau arddangos yn addas ar gyfer gwaith celf ysgafn neu drwm a gellir eu defnyddio naill ai ein system hongian neu dâp Command neu Velcro.

Mae ein system hongian yn defnyddio cyfuniad o fachau a chordiau ar gyfer llwythi hyd at 20 kg.  

Gellir hongian gweithiau celf ar y waliau haenog a’r waliau MDF drwy ddefnyddio tâp command neu felcro.

Hefyd, gellir gosod gweithiau celf ar y waliau hyn gan ddefnyddio platiau drych a sgriwiau, neu ddull hongian priodol arall, pe bai hyn yn well.

Goleuo

Gellir addasu'r goleuadau yn Oriel y Dyfodol drwy ddefnyddio'r sbotolau trac.

Hygyrchedd

Mae'r Pierhead yn adeilad cwbl hygyrch. Gellir defnyddio grisiau neu lifft i gyrraedd Oriel y Dyfodol.

Mae lifft allanol ar gael i ymwelwyr anabl yn ein man parcio hygyrch y tu allan i'r Senedd.

 

Gwnewch gais i gynnal arddangosfa