Mannau arddangos y Senedd

Cyhoeddwyd 18/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Yr Oriel

Mae Oriel y Senedd yn union uwchben y siambr drafod, ac mae’r arddangosfeydd yn adlewyrchu pynciau llosg y dydd gan sbarduno sgyrsiau am fywyd yng Nghymru, democratiaeth Cymru, a gwaith y Senedd.

Gall sefydliadau ac artistiaid allanol wneud cais i gynnal arddangosfa yn Oriel y Senedd os yw eu prosiect yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:

  • Mae’n arddangos rhagoriaeth Cymru
  • Mae’n adlewyrchu cyfrifoldebau a blaenoriaethau'r Senedd
  • Mae’n arddangos treftadaeth ddiwylliannol Cymru
  • Mae ganddo arwyddocâd eang ar lwyfan y byd
  • Mae’n atgyfnerthu hunaniaeth y Senedd fel atyniad i ymwelwyr

 

Mannau arddangos sydd ar gael

Tri bwrdd arddangos sy'n mesur 300cm o led x 200cm o uchder

Chwe phanel gwydr sy'n mesur 149cm o led x 227cm o uchder

Dau gwpwrdd gwydr sy’n mesur:

  • 90cm o uchder x 100cm o led x 50cm o ddyfnder
  • 180cm o uchder x 50cm o led x 50cm o ddyfnder

(efallai y bydd cypyrddau arddangos ychwanegol ar gael ar gais)

55" monitor ar stondin olwynog (efallai y bydd monitorau ychwanegol ar gael ar gais)

Celf

Gellir chwarae darnau sain/gweledol ar y monitorau sydd ar gael.

Gellir arddangos gwaith celf 3D fel darn annibynnol y tu ôl i rwystrau isel neu mewn cypyrddau arddangos gwydr. (yn dibynnu ar faint y darn)

Gellir arddangos gwaith celf 2D ar ein byrddau arddangos.

Gosod a hongian

Mae'r byrddau arddangos yn addas ar gyfer gweithiau celf ysgafn neu drwm a gellir defnyddio naill ai ein system hongian neu dâp Command neu Velcro.

Mae gan ein system hongian yn cyfuno bachau a chordiau sy’n gallu dal llwythi hyd at 20 kg.

Mae'r paneli gwydr yn yr Oriel yn addas ar gyfer decalau finyl ar raddfa fwy.

Goleuo

Ni ellir addasu'r goleuadau yn Oriel y Senedd, ond gallwn gefnogi drwy awgrymu cynlluniau i greu mannau tywyllach ar gyfer gwaith fideo neu ddarnau sensitif.

Hygyrchedd

Mae'r Senedd yn adeilad cwbl hygyrch. Gellir defnyddio grisiau neu lifft i gyrraedd yr Oriel.

Mae lifft allanol ar gael i ymwelwyr anabl yn ein man parcio hygyrch y tu allan i'r Senedd.

 

Gwnewch gais i gynnal arddangosfa