Llais yr Afon

Cyhoeddwyd 05/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/10/2026

Arddangosfa gan Theatr Byd Bach 

Noddir gan Elin Jones AS 

Dyddiadau: 14 Tachwedd 2026 i 11 Chwefror 2027

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead


Map darluniadol o Afon Teifi yn dangos bywyd gwyllt, tirnodau lleol a phwyntiau o ddiddordeb ar hyd yr afon.

Mae Afon Teifi yn un o ddyfrffyrdd mwyaf eiconig Cymru, sy'n llifo'n gyfan gwbl o fewn Cymru. Mae'n enwog am ei bywyd gwyllt, ei threftadaeth ddiwylliannol a'i hanes, ond mae hefyd yn wynebu pwysau cynyddol yn sgil llygredd, newid hinsawdd a defnydd anghynaladwy o dir.

Daeth prosiect Llais yr Afon ag artistiaid, gwyddonwyr a chadwraethwyr ynghyd o Achubwch y Teifi, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Theatr Byd Bach a spacetocreate. Wedi'i ysbrydoli gan fap Idris Mathias (1945-1962), cafodd y prosiect ei gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Rhaglen Mannau Glas Sefydliad Esmée Fairbairn.

Wrth wraidd y prosiect roedd Cynllun y Bobl ar gyfer y Teifi, sef gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol yr afon, a luniwyd gan gymunedau gyda ffocws ar iechyd ecolegol, rheolaeth gynaliadwy a chyfranogiad. Daeth pum thema i'r amlwg: Mynediad, Bioamrywiaeth, Bwyd ac Amaethyddiaeth, Ansawdd Dŵr, a Diwylliant a Threftadaeth.

Trwy weithgareddau ysgolion ac ymgysylltu cymunedol, ynghyd â digwyddiadau a gwyliau a gynhaliwyd yn ystod yr haf ar hyd Pen Isaf Dyffryn Teifi, sbardunwyd sgyrsiau a chreadigrwydd a gynhyrchodd ddeunydd ar gyfer map gwerin cyfoes.

Cryfhaodd Llais yr Afon y cysylltiadau rhwng pobl a'r afon, gan feithrin ymdeimlad cyffredin o gyfrifoldeb am ei dyfodol. Mae ei etifeddiaeth yn parhau drwy Gynllun y Bobl, y map gwerin, ac archif ar-lein sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy'n cynnwys gweithiau celf, adnoddau ac ymchwil.