Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd

Cyhoeddwyd 22/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/02/2026   |   Amser darllen munudau

Dyddiad: Dydd Sadwrn 28 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth

Amser: 10:30 – 16:00

Lleoliad: Y Senedd ac adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

£ Am Ddim

Dewch i ddathlu!

Dydd Gŵyl Dewi

  

 

Ymunwch â ni am 2 ddiwrnod o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi llawn hwyl ac am ddim yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn 28 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth.

Mwynhewch ddiwrnod o ddathlu diwylliant, creadigrwydd a chymuned, gyda gweithgareddau a pherfformiadau drwy'r dydd - mae rhywbeth at ddant pawb!

  • Byddwch grefftus yn ein gweithdai llwyau caru*, byddwch gampus wrth jyglo mewn sesiwn Sgiliau Syrcas neu dewch i flaguro yn ein gweithdy plannu hadau
  • Gwrandewch ar seiniau hyfryd ein corau Cymreig a pherfformiadau cerddorol eraill yn ystod y deuddydd.
  • Cewch 'Siarad Sbwriel' mewn sesiwn casglu sbwriel gyda 'Cadwch Gymru'n Daclus' – cyfle i dacluso’r ardal ac ymarfer eich sgiliau Cymraeg ar yr un pryd!
  • Dysgwch am etholiad y Senedd 2026 drwy ymuno ag un o'n sesiynau 'Deall eich pleidlais' neu ewch ar Daith o'r Senedd.
  • Dechreuwch eich diwrnod yn y ffordd gywir gyda sesiwn ioga am ddim ac ymestyn eich golygon dros Fae Caerdydd.*
  • Pics, welshcêc, neu gacan gri? Mwynhewch bicau ar y maen am ddim gydag unrhyw ddiod boeth a brynir yn ein caffi (tra bod digon yn y gegin).

Mae rhywbeth i bawb ac allwn ni ddim aros i'ch croesawu!

*Mae angen archebu’r gweithdai hyn ymlaen llaw

Beth sy’n digwydd?

Dydd Sadwrn 28 Chwefror

10:00 – 11:00 – Sesiwn 'Siarad Rybish' gyda Cadwch Gymru'n Daclus

Cyfle i ymarfer eich Cymraeg mewn sesiwn casglu sbwriel o amgylch Bae Caerdydd - croeso i bawb!

11:00 – Perfformiad y côr cymysg i blant, 'Only Voices Aloud'

10:30 – 13:30 – Gweithdy Sgiliau Syrcas

Hwyl berffaith i bawb wrth jyglo, droelli platiau a hwla-hwpio!

11:15 – 12:00 – Gweithdy Galw Heibio plannu hadau gyda 'Tyfu Caerdydd'

Moliannwn…y mae'r gwanwyn wedi dod! Addurnwch bot i’w fynd adre gyda chi a phlannu hedyn ynddo mewn gweithdy gyda 'Tyfu Caerdydd’.

11:15 – 12:00 – Sesiwn wybodaeth: 'Deall eich Pleidlais'*

Cyfle i ddysgu mwy am Etholiad y Senedd ar 7 Mai

Cewch wybodaeth ddifyr am y canlynol:

  • Pam mae'r Senedd wedi newid – Rhai o’r rhesymau dros y newidiadau sydd ar ddod.
  • Pŵer eich pleidlais – Gallwch weld sut bydd eich dewisiadau chi’n dylanwadu ar y canlyniad.
  • Eich cynrychiolaeth – Dysgwch sut y byddwch chi'n cael eich cynrychioli yn y Senedd nesaf.
  • Dyddiadau pwysig yr Etholiad – Amserlen o ddyddiadau a digwyddiadau allweddol.

12:00 – 12:30 – Perfformiad cwmni theatr 'Mewn Cymeriad'

Cyfle gwych i bobl ifanc ddysgu mwy am y Senedd mewn ffordd fywiog a diddorol, mewn cynhyrchiad newydd sbon gan 'Mewn Cymeriad'. Ysgrifennwyd y ddrama gan yr awdures adnabyddus, Manon Steffan Ros, ac mae wedi ei dargedu at oedolion ifanc 15+, ond yn addas i bawb!

Bydd y perfformiad yma yn Saesneg.

14:00 – 15:00 – Gweithdy Celf Dywod

Rhowch gynnig ar greu dyluniadau ar thema Dydd Gŵyl Dewi trwy ddefnyddio tywod lliwgar!

14:15 – 15:00 - Sesiwn wybodaeth 'Deall eich Pleidlais'*

15:00 – Sesiwn jamio 'Noson Lawen' gyda grŵp gwerin Chapter

Dewch ag offeryn gwerin er mwyn jamio gyda chriw 'Noson Lawen' o Ganolfan Gelfyddydau Chapter. Neu dewch draw i fwynhau gwrando arnyn nhw!

 

Dydd Sul 1 Mawrth

10:00 – 10:45 – Sesiwn ias ioga*

Dechreuwch eich bore yn y ffordd orau gyda sesiwn ioga 45 munud gyda Jenny o Vibes Yoga Vibes | Stiwdio Ioga Caerdydd | Yoga Caerdydd, gyda golygfeydd godidog dros Fae Caerdydd!

10:30 – 13:30 – Gwyddoniaeth Gwallgo ExperiMENTAL

Torchwch eich llewys ac ymunwch ag ExperiMENTAL ar gyfer dathliad gwyddonol ar thema Dydd Gŵyl Dewi. Hwyl berffaith i’r teulu oll.

Gall plant alw heibio a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwyddoniaeth, gan gynnwys:
Thomatrop y Ddraig Goch - rhith gweledol o Oes Fictoria
Rocedi Draig – dysgwch am gyfreithiau Newton
Cromatograffaeth Cennin Pedr – gwyddoniaeth y gwanwyn
Cydbwyso Cywion Bach – mae grymoedd a chraidd disgyrchiant ar waith

Mae'r holl weithgareddau'n addas ar gyfer plant ifanc 4+ oed a chewch fynd â’ch dyfeisiau adref gyda chi.
Does dim angen cadw lle – galwch heibio i ddathlu Cymru drwy wyddoniaeth! 

11:00 – Perfformiad gan 'Gorws Gwefrau Da'

  Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi partneru â Parkinson's UK i greu côr i helpu pobl i reoli eu symptomau clefyd Parkinson yn well – dewch draw i fwynhau’r canu.

11:15 – 12:00 – Gweithdy Crefft Llwyau Caru*

Rhyddhewch eich creadigrwydd a chreu llwy garu! Bydd yr artist Lowri Williams yn eich tywys i greu llwy garu unigryw i'w chofio gyda deunyddiau amgen, fel gwifren a chregyn môr.

11:15 – 12:00 – Sesiwn wybodaeth: 'Deall eich Pleidlais'*

13:00 – 13:40 – Gweithdy Crefft Llwyau Caru*

Rhyddhewch eich creadigrwydd a chreu llwy garu! Bydd yr artist Lowri Williams yn eich tywys i greu llwy garu unigryw i'w chofio gyda deunyddiau amgen, fel gwifren a chregyn môr.

14:00 – 14:45 – Perfformiad a gweithdy gan fand Samba Doc

Teimlwch y rhythm gyda Samba Doc – band Samba bywiog a chyffrous. Bydd cyfle i chi gymryd rhan a rhoi cynnig ar rai offerynnau taro ar ddiwedd y perfformiad.

14:15 – 15:00 - Sesiwn wybodaeth 'Deall eich Pleidlais'*

Drwy'r dydd

Byddwch grefftus!

Paentio wynebau (11:00 – 14:00)

Teithiau o amgylch y Senedd*

Dewch ar daith o gwmpas Senedd Cymru

*Gellir archebu ymlaen llaw