Trosolwg

Bydd ein siaradwyr diddorol yn myfyrio ar y thema eleni,  sef "Cynyddu arweinyddiaeth pobl anabl ar gyfer dyfodol cynhwysol a chynaliadwy', ac yn rhannu eu profiadau personol ar eu llwybr hwy tuag at lwyddiant. 

Gellir gwylio'r digwyddiad yn fyw arlein ar Zoom neu ymuno â ni yn y Senedd.

Bydd fideos hefyd ar gael wedi hynny, fel y gallwch wylio’n ôl pan fydd yn gyfleus ichi.

Agenda

10:15 - 10:20

Croeso

 

10:20 - 11:00

Dilyn dy drywydd dy hun

Bethan Richards, Cynhyrchydd, BBC Radio Cymru 

Funmi Oduwaiye, Para Athletwr

Julian John, Prif Weithredwr  cwmni Delsion

Sara Pickard, Cynghorydd Cymunedol

11:15 - 12:00

Codi eich llais

Matt Navarra, Ymgynhorydd Cyfryngau Cymdeithasol

12:45 - 13:30

Anabledd Cymru – Lansio ‘Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth’

 

13:45 - 14:30

Ymgysylltu â’r Senedd a dylanwadu arni

Mark Isherwood AS

Naomi Stocks - Clerc, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Rhayna Mann - Uwch-reolwr y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion

Damian Bridgeman - Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr Freedom 365 Limited/Travel freedom Limited

Georgia Miggins - Cyn-Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

 

Mynychu Ar-lein

Caiff y digwyddiad ei ffrydio’n fyw ar ffurf gweminar Zoom o 10:00 ddydd Mawrth 3 Rhagfyr.

  • Pan fyddwch yn ymuno â’r digwyddiad, gofynnir ichi fewnbynnu eich enw cyntaf a’ch cyfenw, yn ogystal â’ch cyfeiriad e-bost.
  • Ni fyddwch yn gallu defnyddio’ch meicroffon na’ch camera i gymryd rhan yn y digwyddiad.
  • Mae capsiynau awtomatig ar gael os ydych yn defnyddio porwr Google Chrome neu Microsoft Edge. Dim ond drwy gyfrwng y Saesneg y mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd.
  • Caiff y digwyddiad ei ffrydio o’r Senedd, Bae Caerdydd.

Ymunwch â'r drafodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, mae croeso ichi gysylltu â cysylltu@senedd.cymru

Mynychu wyneb yn wyneb

  • Cofrestrwch i fynychu 'wyneb yn wyneb' ar Eventbrite.
  • Gall y gwesteion gyrraedd o 09:30 ymlaen ar y diwrnod, i ddechrau am 10:15.
  • Darperir lluniaeth a chinio.
  • Cofiwch roi gwybod inni os oes gennych unrhyw ofynion o ran hygyrchedd wrth archebu eich tocyn.
  • Cofiwch archebu dau docyn os hoffech ddod â gofalwr neu gydymaith gyda chi.
  • Nid oes angen cofrestru i ymuno â’r sesiynau ar Zoom. Bydd linc i ymuno â Zoom yn cael ei rannu ar y dudalen hon ddydd Llun 2 Rhagfyr.