Dewch i sgwrsio ag Aelodau’r Pwyllgor am eich barn ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y Cymoedd.
- Ydych chi’n cael cyfleoedd i siarad Cymraeg?
- Pa heriau ydych chi’n eu hwynebu wrth ddefnyddio’r Gymraeg?
- A oes un peth y byddech yn ei newid i wella’ch profiad o ddefnyddio’r Gymraeg?
Dyddiad: Dydd Mercher 7 Awst 2024
Amser: 11.00 – 11.45
Lleoliad: Cymdeithasau 2
Mae hyn yn rhan o waith ehangach y mae’r Pwyllgor yn ei wneud i edrych ar y cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrth hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o bobl yn ei siarad.