Ymunwch â ni yn y Senedd yr haf hwn am gyfres o weithgareddau cyffrous!
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 19 Gorffennaf tan 31 Awst / Mynediad am ddim
Arddangosfeydd

Wanderlust
Dyddiadau: Ar agor tan 28 Awst
Lleoliad: Y Pierhead, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Darganfyddwch ddiwylliant cyfoethog, bywiog cymunedau Sipsiwn a Theithwyr trwy ffotograffiaeth a barddoniaeth pwerus.
Crewyd yr arddangosfa hon gan ddisgyblion o Ysgol Gorllewin Mynwy mewn cydweithrediad ag artistiaid lleol, ac mae'n herio ystrydebaufd ac yn dathlu hunaniaeth.

Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan
Dyddiadau: 22 Gorffennaf i 1 Medi
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Yr haf hwn, mae'r Senedd yn falch o gynnal Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan, arddangosfa newydd a grëwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a chylchgrawn Al Naaem.
Mae'r prosiect yn deyrnged bwerus i gryfder, gwydnwch a harddwch treftadaeth Somalia.
Gweithgareddau

Llyfrynnau Gweithgareddau – Fforwyr y Senedd ac Antur Fflam yn y Pierhead
Dyddiadau: Drwy gydol y flwyddyn
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Archwilio'r senedd a'r Pierhead gyda’n llyfrynnau gweithgareddau i blant 5-12 oed.

“Ry’n ni’n rhan o’r cyfoeth o bwy ydym ni" - Gweithgaredd Rhannu ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’
Dyddiadau: 22 Gorffennaf i 1 Medi
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Mae’r ffilm Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan yn dathlu treftadaeth Somalïaidd yng Nghymru. Pe gallech chi wneud ffilm sy'n dathlu eich diwylliant neu’ch cymuned, beth fyddech chi eisiau ei rannu gyda phobl y dyfodol?
Dewch i weld yr arddangosfa a rhannu eich meddyliau yn y Senedd.

Crefft
Dyddiadau: 19 Gorffennaf i 31 Awst
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Beth am fod yn greadigol – fe gewch fwrw ati i wneud crefftau diddorol yn ystod eich ymweliad â'r Senedd, a darperir amrywiaeth o ddeunyddiau ar eich cyfer.

Cardiau Post o'r Dyfodol
Dyddiadau: 19 Gorffennaf i 1 Medi
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Sut ydych chi'n meddwl y bydd Cymru ymhen 10, 20 neu hyd yn oed 50 mlynedd? Sut gyrhaeddon ni yno? Rhowch wybod i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, drwy greu eich cerdyn post eich hun o'r dyfodol.

Gweithdy creadigol gydag Al Naaem
Dyddiadau: 25 Awst, 10:30-12:00
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Yn addas ar gyfer plant a phobl ifanc 11 oed ac yn hŷn
Nid oes yn rhaid cadw lle ymlaen llaw – yn hytrach, gallwch alw heibio ar y diwrnod
Fel rhan o'r arddangosfa ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’, bydd Al Naaem yn cynnal gweithdy barddoni ac ysgrifennu creadigol gyda’r nod o rymuso pobl ifanc a datblygu eu creadigrwydd.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio eu treftadaeth a'u hunaniaethau trwy ymarferion ysgrifennu dan arweiniad ac adrodd straeon, gan helpu iddynt ddatblygu eu lleisiau unigryw eu hunain a meithrin hyder.
Bydd y gweithdy’n ysbrydoli beirdd ac awduron y dyfodol i fynegi eu hunain yn llawn, gan ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol a meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid ac arweinwyr.
*Caiff y gweithdy ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.

Ardal Chwarae
Dyddiadau: Drwy gydol y flwyddyn
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Mae gan ein hardal sy'n ystyriol o deuluoedd lawer o deganau i chwarae gyda hwy a map mawr o Gymru i'w archwilio.
Tra bod y plant yn chwarae gallwch chi fwynhau paned yng nghaffi'r Senedd, sydd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd.