Gwneud cais i gynnal digwyddiad

Cyhoeddwyd 24/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/08/2024   |   Amser darllen munud

Mae cynnal digwyddiad ar ystad y Senedd yn caniatáu i’ch llais gael ei glywed wrth wraidd democratiaeth Cymru.

Llenwch ffurflen gais nawr, i weld a allwn gynnal eich digwyddiad.

 

Pwy all wneud cais

Gall Aelodau’r Senedd, Staff Cymorth Aelodau, Staff y Comisiwn a Threfnwyr Allanol archebu mannau digwyddiadau yn y Senedd.

Digwyddiadau yn y Senedd

Mae digwyddiadau yn y Senedd fel arfer yn cael eu rhannu’n tri chategori gwahanol:

  1. Digwyddiad: cael ei gynnal yn un o’n lleoliadau cyhoeddus, y Senedd neu’r Pierhead. Gall eich digwyddiad gynnwys derbyniad, perfformiad, rhwydweithio, stondinau gwybodaeth, seremoni wobrwyo, cynhadledd, darlith, neu debyg.
  2. Seminar neu sesiwn friffio: digwyddiad byr yn canolbwyntio ar faes polisi penodol neu lansio adroddiad; cyflwynir y digwyddiadau hyn yn ein hystafelloedd cynadledda llai. Mae nifer y gwesteion yn gyfyngedig yn y lleoedd hyn.
  3. Y Farchnad: digwyddiad rhwydweithio misol lle gallwch gynnal stondin yn y Senedd i godi ymwybyddiaeth o achos neu fater sy'n effeithio ar eich sefydliad.

Sut i wneud cais

  1. Cwblhewch ffurflen gais gyda chymaint o fanylion â phosibl am eich cynnig digwyddiad. Mae lleoedd digwyddiadau yn llenwi’n gynnar, ac felly rydym yn argymell gwneud cais 5-6 mis cyn yr hoffech gynnal digwyddiad.

  2. Pan fyddwn wedi cael eich cais bydd yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn bodloni ein telerau ac amodau.
             
  3. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod os caiff eich digwyddiad ei gymeradwyo a byddwn yn cadarnhau'r dyddiad, amser a lleoliad.

  4. Cyn y gellir cynnal eich digwyddiad, byddwn yn gofyn am brawf o nawdd gan Aelod o’r Senedd. Byddwn hefyd yn gofyn am gael gweld eich gwahoddiadau digwyddiad cyn ichi eu hanfon at westeion.

  5. Tua wyth wythnos cyn eich digwyddiad, byddwn yn rhoi gwybod ichi pwy yw eich swyddog digwyddiad yn y Senedd. Bydd eich swyddog digwyddiad yn eich tywys o amgylch y lleoliad ac yn eich cefnogi i gwblhau'r holl fanylion pwysig am gyflwyno eich digwyddiad.

  6. Rhaid i unrhyw un sy’n cynnal digwyddiadau yn y Senedd wahodd holl Aelodau o’r Senedd i fod yn bresennol. Mae rhagor o fanylion am ein telerau ac amodau ar gael yma